Mae Mark Reckless, arweinydd Plaid Brexit yn y Senedd, yn dweud bod Llywodraeth Cymru’n gadael i Gymru “gerdded yn ein cwsg tuag at annibyniaeth” drwy beidio â mynd i’r afael â’r coronafeirws.
Daeth ei sylwadau yn ystod sesiwn holi’r prif weinidog yn y Senedd heddiw (dydd Mawrth, Hydref 13).
Mae’n dweud nad oes yna “fawr o wahaniaeth” yn y ffordd mae Mark Drakeford ac Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, yn trafod eu dymuniad i gyflwyno cyfyngiadau ar bobol sydd eisiau teithio i Gymru.
“Mae nifer yn ofni ein bod ni bellach yn cerdded yn ein cwsg tuag at annibyniaeth,” meddai.
“Ddoe, fe geisioch chi osod wltimatwm ar brif weinidog y Deyrnas Unedig, a heddiw rydych chi ym mron pob cyhoeddiad newyddion yn dweud eich bod chi am orfodi ffin rhwng Cymru a Lloegr.”
Ond wrth ymateb, dywedodd Mark Drakeford na “all yr aelod ddim bod wedi bod yn fwy anghywir”, gan wfftio’r awgrym mai camau gwrth-Seisnig yw ceisio cyflwyno “ffin” rhwng Cymru a Lloegr.
“Dw i wedi gwneud fy ngorau glas drwy gydol y drafodaeth am deithio i egluro nad yw’n fater i fi o’r ffin,” meddai.
“Y prif weinidog sy’n ei orfodi i ddod yn fater o ffiniau drwy wrthod gweithredu i atal pobol o dde Lloegr rhag teithio o ardaloedd heintiau uchel i ardaloedd heintiau isel a theithio y tu hwnt i Loegr.”
Fe wfftiodd yr awgrym ei fod am weld Cymru annibynnol, gan fynnu ei fod yn “credu yn y Deyrnas Unedig”.
“Fy safbwynt i yw fy mod i’n credu yn y Deyrnas Unedig, dw i’n credu mod Deyrnas Unedig lwyddiannus, dw i’n difaru’n fawr fod y prif weinidog yn gweithredu mewn modd sy’n codi amheuon am hynny ym meddyliau eraill,” meddai wedyn.
“Dw i’n ailadrodd, Lywydd, nad yw i fi yn fater o atal pobol o Loegr rhag dod i Gymru, mae’n fater o atal unrhyw un o unrhyw le yn y Deyrnas Unedig sy’n byw mewn ardal heintiau uchel rhag teithio i ardal heintiau isel yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
“Rhaid i ni i gyd chwarae ein rhan.
“Mae gyda ni’r trefniadau yna yma yng Nghymru, a dw i eisiau i’r prif weinidog wneud yr un fath yn Lloegr oherwydd dw i’n credu bod hynny’n cefnogi Deyrnas Unedig gref.
“Byddai peidio gwneud hynny’n tanseilio’r rheiny ohonom sydd am gyflwyno’r achos hwnnw.”
Dim cyfyngiadau lleol – Plaid Cymru
Yn ystod y drafodaeth, fe wnaeth Adam Price, arweinydd Plaid Cymru, ofyn pam nad oedd Cymru wedi cyflwyno cyfyngiadau i atal pobol rhag teithio er bod system dair haen ar waith eisoes mewn rhai ardaloedd yn Lloegr.
Dywedodd Mark Drakeford fod Llywodraeth Cymru yn derbyn gwybodaeth gan TAC, ac nid yn uniongyrchol gan bwyllgor Sage Llywodraeth Prydain, ac nad oedden nhw’n argymell cyflwyno cyfyngiadau o’r fath.
Ac fe ddywedodd iddo ysgrifennu llythyr arall eto fyth yn gofyn i Boris Johnson ystyried atal pobol o Loegr rhag teithio o ardaloedd heintiau uchel i ardaloedd heintiau isel – gan ofalu i beidio â son am y mater yn nhermau Cymru a Lloegr.
“Daw’r dystiolaeth drwy law TAC,” meddai.
“Dydy e ddim yn dod yn ddigyfryngiad oherwydd mae cyngor Sage wedi’i ddominyddu gan yr angen i roi cyngor i’r wlad fwyaf o blith pedair gwlad Prydain, a dyna pam fod gennym ein cell cyngor technegol ein hunain a daw cyngor Sage ataf drwy’r gell.
“Dydyn ni ddim eto wedi derbyn cyngor gan gell TAC i gyflwyno system torri’r gylched.
“Ond dw i’n cymryd y dadleuon o blaid torri’r gylched o ddifri.
“Yn y cyfarfod Cobra ddoe, gofynnais i’r prif weinidog am gyfarfod Cobra, yn benodol i drafod y syniad o dorri’r gylched.
“Dw i’n credu ei fod yn syniad fydd angen ei ystyried ymhellach ac i rannu persbectif rhwng y pedair gwlad yn y Deyrnas Unedig.
“Dw i’n ailadrodd yr alwad honno i’r prif weinidog yn y llythyr dw i wedi ei anfon ato heddiw.
“Dw i’n credu ein bod ni wedi ymateb yn gyflym ac yn benderfynol, a bod y cyfyngiadau sydd gennym mewn ardaloedd lle mae iechyd yn cael ei warchod yng Nghymru’n mynd y tu hwnt i’r gofynion yn Lloegr, hyd yn oed y system dair haen mae’r prif weinidog wedi ei chyhoeddi.
“Bu’n rhaid i ni symud dros y penwythnos i gyflwyno cyfyngiadau lleol mewn ardal arall o Gymru, ym Mangor, felly dw i’n credu ein bod ni yn gweithredu’n gyflym ac yn benderfynol.”
Ceidwadwyr yn cyhuddo’r Llywodraeth o “fethiant”
Ac mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o “fethiant” wrth gyflwyno’r cloeon lleol.
Serch hynny, dywedodd Mark Drakeford nad yw diffyg cloeon lleol “yn ddim mwy [o arwydd o fethiant] nag y mae cyhoeddiad [hwyr] y prif weinidog ynghylch system dair haen yn Lloegr yn fesur o fethiant yn Lloegr”.
“Symudodd y prif weinidog er mwyn newid y trefniadau yn Lloegr ddoe oherwydd y cynnydd yn y feirws yn y fan honno.
“Fe wnawn ni’r un fath yng Nghymru os oes angen i ni ei wneud e yma.”