Mae criw o bobol ifanc mewn sawl ardal yng Ngwynedd wedi sefydlu mentrau cyffrous yn sgil cynllun ‘Byw a Bod yn y Gymuned’.
Mae’r cynllun, sydd wedi ei ariannu gan Arloesi Gwynedd Wledig, wedi darparu cyfleodd gwaith i bobol ifanc mewn cymunedau ar draws y sir.
Y nod yw eu galluogi nhw i fynd ati i adnabod a dod o hyd i ddatrysiadau i broblemau sy’n benodol i’w cymunedau nhw.
Wrth fynd i’r afael â’r heriau hyn, cafodd cwmni gwlân, clwb drama a chlwb darllen eu sefydlu, ymhlith nifer o fentrau cyffrous eraill.
Yn ôl un person ifanc, mae’r cynllun wedi gwneud iddi sylweddoli “pa mor bwysig ydi bod cymunedau yn sefyll ar eu traed eu hunain” gan ddatgan bod “mentrau lleol, annibynnol os wbath yn bwysicach i gynnal hunaniaeth Gymraeg”.
Mae’r cynllun wyth wythnos wedi bod yn rhedeg ers mis Awst ac wedi dod i ben yr wythnos hon.
“Ddoth o i’n sylw ni yn fuan iawn yn ystod y cyfnod clo bod ’na bryder mawr allan yna i bobl ifanc o ran diffyg cael gwaith, felly bwriad ‘Byw a Bod yn y Gymuned’, oedd gosod pobl ifanc hefo mentrau cymdeithasol, i adnabod yr heriau yn eu cymunedau a gweithredu i ffeindio datrysiad,” meddai Rhian Hughes, Uwch Swyddog Prosiect Arloesi Gwynedd Wledig.
Blaenau Ffestiniog
Un o’r cymunedau sydd wedi elwa o’r cynllun yw Blaenau Ffestiniog, lle mai un o’r prosiectau yw cwmni gwlân insiwleiddio sydd wedi’i sefydlu gan Elfed o Drawsfynydd.
“Mae o’n gynllun peilot sy’ wedi bod yn uffernol lwyddiannus,” meddai Ceri Cunnington am Gwmni Bro Ffestiniog.
“Dan ni wedi bod yn trio rhoi pwyslais ar y Llywodraeth ac asiantaethau eraill i siapio cynlluniau cefnogaeth i bobol ifanc ar gyfer y gymuned maen nhw’n byw ynddi, dyna mae’r cynllun yma yn ei wneud.
“Os wyt ti’n gallu rhoi cyfle i berson ifanc yn eu cymuned, maen nhw am edrych o gwmpas a gweld gwerth y gymuned a faint o bwysig ydi eu cyfraniad nhw.
“Mae hyn wedi rhoi ysbryd newydd i’r gymuned ac iddyn nhw.”
Dyffryn Nantlle
Un o gyfranogwyr ifanc y prosiect yn Nyffryn Nantlle yw Lleucu Non, sydd wedi bod yn brysur yn ail-lansio clwb drama lleol.
“Mi o’dd ’na dri ohonan ni’n gweithio ac mi o’n i’n gyfrifol am ail-lansio’r clwb drama, roedd Osian yn gyfrifol am yr ochr gerddorol, mae o wedi bod yn sefydlu gweithdai cerddorol, ac mae Gruff wedi bod yn gwneud ymchwil cymunedol i ffeindio allan be mae pobl Dyffryn Nantlle isio.”
Yn ôl Lleucu, mae’r prosiect wedi bod yn gyfle iddi ddatblygu sgiliau newydd ac ehangu ar ei dealltwriaeth o’r hyn mae menter gymdeithasol a gwaith datblygu cymunedol yn ei olygu.
“Y sgil fwyaf ’swn i’n deud mod i wedi dysgu oedd i fod yn arloesol a dwi wedi dysgu i fod yn berson mwy amyneddgar,” meddai.
“Dwi hefyd wedi sylwi pa mor bwysig ydi gweithgareddau cymunedol a pha mor bwysig ydi bod cymunedau yn sefyll ar eu traed eu hunain, yn lle bo ni’n disgwyl i fentrau neu fusnesau mawr ddod i mewn i gynnal yr economi.
“Mae mentrau lleol, annibynnol, os wbath, yn bwysicach i gynnal hunaniaeth Gymraeg.”
Dyffryn Ogwen
Mae Meleri Davies yn rhan o fenter gymunedol Partneriaeth Ogwen.
“Roedd Partneriaeth Ogwen ddigon lwcus i gael pedwar swyddog ‘Byw a Bod’ yn gweithio hefo ni ac roedd y pedwar yn gwneud gwaith datblygu cymunedol yn ardal Dyffryn Ogwen,” meddai.
Ymhlith eu dyletswyddau unigol roedd ymgynghori ar brosiect adfywio hen adeilad cymunedol ym Methesda a sefydlu clwb darllen, a dywed Meleri fod y criw gweithgar hefyd wedi cydweithio i drefnu ffair grefftau a chynnyrch lleol Cadwyn Ogwen.
“Dwi ’di cael profiad anhygoel o weithio efo pobol sy’n gwneud gwaith gwych yn y gymuned. Ma’ Partneriaeth Ogwen yn dîm lyfli i weithio efo, ond ma’ nhw hefyd di rhoi’r cyfle i ni fod yn annibynnol a datblygu syniadau ein hunain,” meddai Elin Cain, un o’r cyfranwyr ifanc i’r cynllun.
Y berthynas yn parhau
Yn ôl Meleri Davies, mae’r cynllun hwn wedi gosod y sylfaen ar gyfer amryw o brosiectau neu fentrau cymdeithasol, ac maen nhw nawr am “drosglwyddo’r awenau i wirfoddolwyr lleol” i gymryd rheolaeth ohonyn nhw.
Serch hynny, mae’n debyg fod y berthynas yn parhau er bod prosiect ‘Byw a Bod’ ar ben.
“Be’ sy’ mor neis hefyd ydi, ’dan ni wedi cael y pedwar ohonyn nhw’n gweithio hefo ni am wyth wythnos, ’dan ni’n cadw un ohonyn nhw ymlaen am gyfnod hirach, tra bod y tri arall wedi mynd yn ôl i’r coleg,” meddai.
“Ond, fydda i’n cadw mewn cysylltiad agos hefo nhw ac os oes yna gyfleodd gwaith neu wirfoddol yn codi, mi fydda i’n sicr yn cysylltu hefo nhw.”
Ehangu’r cynllun i weddill Cymru
Wrth drafod a oes unrhyw gynlluniau i ddatblygu’r cynllun ar gyfer gweddill Cymru, dywed Rhian Hughes o Arloesi Gwynedd Wledig mai “pwrpas y rhaglen ydi bod partneriaethau eraill a mentrau cymdeithasol yn edrych ar fodel Byw a Bod ni, a’i ddefnyddio fo a’i ailfodeulu fo gan ddysgu o be’ ’dan wedi’i wneud”.
“Mi yda ni’n annog cymunedau eraill yng Nghymru i fod yn edrych ar wneud hynny.”