Mae Michael Roth, Gweinidog Ewrop yr Almaen, yn dweud bod yr Undeb Ewropeaidd yn barod os na fydd cytundeb masnach gyda’r Deyrnas Unedig yn cael ei gwblhau.
Rhybuddia fod amser yn rhedeg allan i gwblhau cytundeb, gan awgrymu y byddai’n rhaid i’r Deyrnas Unedig ildio tir ar hawliau pysgota, trefniadau megis cymorthdaliadau gwladwriaethol, a’r ffordd y byddai unrhyw gytundeb yn cael ei lywodraethu.
Mae’r Arglwydd Frost, ymgynghorydd Ewrop Boris Johnson, yn cynnal trafodaethau cyn uwchgynhadledd arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd, sef y dyddiad mae’r prif weinidog wedi ei osod fel dyddiad cau ar gyfer cytundeb.
“Rydym mewn cyfnod allweddol yn y trafodaethau,” meddai Michael Roth.
“Rydym o dan bwysau aruthrol, ac mae amser yn rhedeg allan.
“Dyna pam rwy’n disgwyl cynnydd sylweddol gan ein cyfeillion o’r Deyrnas Unedig mewn meysydd allweddol.
“Rydym yn barod ar gyfer y ddwy sefyllfa, dylai pawb wybod mai dim cytundeb yw’r senario waethaf, nid yn unig i’r Undeb Ewropeaidd ond hefyd i’r Deyrnas Unedig, ond rydym hefyd yn barod am hynny.
“Ond rydym yn gweithio’n galed ar gael cytundeb da, cytundeb cynaliadwy sy’n dderbyniol i’r ddwy ochr.”