Mae pôl opiniwn wedi awgrymu yn gallai Donald Trump golli etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau ar sail ei ymateb i’r pandemig coronafeirws.

Gyda thair wythnos tan yr etholiad ar Dachwedd 3, mae’r coronafeirws a’r ffordd mae gweinyddiaeth Donald Trump wedi delio â’r pandemig yn debygol o fod ar frig y ffactorau pwysicaf wrth i bobol benderfynu sut i bleidleisio.

Mae mwy na 215,000 o bobol wedi marw ar ôl profi’n bositif am y coronafeirws yn yr Unol Daleithiau.

Mae Ipsos UDA, arbenigwyr barn y cyhoedd, wedi cyfweld â miloedd o Americanwyr er mwyn deall y materion y byddan nhw’n pleidleisio ar eu sail.

Dywedodd Mallory Newall, cyfarwyddwr materion cyhoeddus Ipsos UDA, fod yr etholiad yn “refferendwm ar yr Arlywydd”.

“Yn anffodus i’r Arlywydd, mae’r rhan fwyaf o Americanwyr yn teimlo mai Joe Biden sydd â’r cynllun gorau i helpu’r wlad adfer,” meddai.

“Mae’r pandemig yn mynd i fod yn ganolog i’r etholiad ac os yw ymgyrch Joe Biden yn gallu gwthio’r neges honno, mae hynny’n debygol o roi mantais iddyn nhw.”

Trump gyda siawns 50-50 i gael ei ail-ethol

Mae’r etholiad, fel yn 2016, yn debygol o ddod lawr i chwe thalaith allweddol – Michigan, Wisconsin, Pennsylvania, North Carolina, Arizona a Fflorida.

Yn ôl polau Ipsos, mae Joe Biden ddeg pwynt ar y blaen ar hyn o bryd.

Dyw polau piniwn ddim wastad yn rhoi darlun clir o beth sy’n debygol o ddigwydd ar ddiwrnod yr etholiad ac yn draddodiadol, mae gan yr Arlywydd fantais wrth geisio ennill ail dymor.

Mewn ras agos arall, mae Ipsos yn darogan fod gan Donald Trump siawns 50-50 o gael ei ailethol.