Mae dau draeon o bobol yng Nghymru o’r farn fod eu taith wythnosol i siopa yn ystod y cyfnod clo wedi bod yn help iddyn nhw osgoi teimlo’n unig, yn ôl ymchwil newydd.
Ac mae’n sicr y bydd cynnydd yn nifer y bobol sydd yn ymweld ag archfarchnadoedd a siopau wrth i Lywodraeth Cymru ystyried ail gyfnod clo.
Mae’n debyg y bydd hyn yn achosi cynnydd yn y galw am fwyd a nwyddau wrth i bobol brynu mwy a phrynu’n wyllt.
Roedd cynnydd o 5.6% yng ngwariant prynwyr yn ystod mis Medi eleni o’i gymharu â Medi 2019, gyda’r cynnydd mwyaf mewn gwario ar fwyd a nwyddau i’r cartref.
Mae siopau bwyd ac archfarchnadoedd yn dal i fod yn hanfodol yn ystod y pandemig.
Gyda miliynau o bobol wedi eu caethiwo i’w cartrefi yn ystod y cyfnod clo cyntaf, eu taith wythnosol i siopa oedd yr unig adeg pan oedd modd iddyn nhw gymdeithasu (yn ddiogel), a chael cip ar normalrwydd.
Wrth i nifer o gyfnodau clo lleol ddod i rym, mae pwysigrwydd archfarchnadoedd i gymdeithas Prydain yn amlwg unwaith eto.
Mae Ubamarket, arloeswyr mewn technoleg manwerthu, wedi darganfod bod 66% o bobol yng Nghymru’n credu fod siopa’n wythnosol wedi bod yn hanfodol wrth ymdopi ag unigrwydd yn ystod y cyfnod clo.
Fel bod posib iddyn nhw gynnig bwyd a nwyddau i filiynau o bobol ar hyd a lled y wlad, roedd rhaid i archfarchnadoedd addasu i ymdopi â phrynu gwyllt, ciwiau hir a silffoedd gwag.
Roedd yn hanfodol bod gweithwyr allweddol mewn archfarchnadoedd yn gallu ateb y galw, wrth barhau i flaenoriaethu diogelwch a llesiant.
Technoleg manwerthu yw’r allwedd
Wrth i gyfyngiadau clo gael eu tynhau eto, mae’n bwysicach nag erioed fod archfarchnadoedd a’r sector manwerthu yn addasu i fyd ôl-coronfeirws.
Technoleg fanwerthu yw’r allwedd er mwyn cynorthwyo archfarchnadoedd a manwerthwyr i ddygymod â’r dyfodol, yn ôl sawl sylwebydd yn y diwydiant.
Byddai cynnig gwelliannau technolegol yn cyflymu a moderneiddio’r profiad o siopa, ac yn cynorthwyo archfarchnadoedd i ymdopi â’r amgylchedd manwerthu newidiol.
Amlygu pwysigrwydd archfarchnadoedd
Mae Will Broome, Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd Ubamarket, o’r farn fod y “pandemig wedi amlygu pwysigrwydd siopa lleol ac archfarchnadoedd i brynwyr ar hyd a lled y wlad”.
“Gyda 50% o bobol Prydain yn wynebu unigrwydd ac yn cael modd i fyw drwy fynd i siopa bob wythnos, ni fu pwysigrwydd archfarchnadoedd erioed mor amlwg,” meddai.
“Er mwyn cynnal hyn, mae’n rhaid i fyd manwerthu ddatblygu ac addasu, gan anghofio am broblemau presennol y sector.”
Esbonia fod Covid-19 wedi amlygu problemau megis “newidiadau cyson i gynlluniau siopau, y drefn ciwio a thalu, a’r diffyg cyfathrebu rhwng archfarchnadoedd a’u cwsmeriaid”.
“Mae technoleg manwerthu yn cynnig datrysiad cynhwysol; yn achos Ubamarket mae’n dod ar ffurf ap; sydd yn rhoi’r cwsmeriaid mewn rheolaeth, ac yn cael gwared ar giwiau, cownteri talu budr, a dryswch ynghylch safle nwyddau a stoc.
“Byddai modd i gwsmeriaid weld beth sydd ar gael cyn mynd i’r siop, cael eu tywys at y nwyddau drwy’r ap, a sganio a thalu drwy’r ap, yn hytrach na gwastraffu amser a pheryglu eu hunain wrth giwio neu dalu.
“Yn bersonol, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld sut beth fydd manwerthu ym Mhrydain yn dilyn yr argyfwng Coronafeirws, ond os yw un peth yn sicr, yna gallu technoleg manwerthu i adeiladu dyfodol y sector yw hynny.”