Mae’r ffermwr mynydd a chyflwynydd teledu, Gareth Wyn Jones, yn disgrifio penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i wyrdroi’r gwelliant i’r Mesur Amaeth fel “diwrnod trist i amaethyddiaeth”.
Ddoe (dydd Llun, Hydref 12), fe wnaeth Aelodau Seneddol bleidleisio o 332 pleidlais i 279, sy’n fwyafrif o 53, i anghytuno â gwelliant Tŷ’r Arglwyddi i atal cynnyrch gyda safonau lles anifeiliaid is rhag cael eu mewnforio.
Roedd yr arglwyddi wedi argymell y newid yn dilyn pryderon am y posibilrwydd o fewnforio cyw iâr wedi’i glorineiddio neu gig eidion wedi’i drin â hormonau o’r Unol Daleithiau.
“Mae hyn yn fater llawer mwy na bwyd a thirwedd,” meddai Gareth Wyn Jones wrth golwg360.
“Bydd hyn yn difetha amaethyddiaeth, yr amgylchedd, iechyd pobol a’r iaith.”
‘Agor y drws i gynnyrch o safon is’
“Mae’n amhosib dweud faint yn union fydd hyn yn taro amaeth yng Nghymru eto, does neb yn gwybod,” meddai wedyn.
“Does dim syniad eto faint bydd yn cael ei fewnforio, faint bydd yr archfarchnadoedd yn cefnogi, nhw fydd â’r pŵer ac yn gallu archebu tunelli o’r cynnyrch yma o’r Unol Daleithiau.
“Yr hyn rydym ni yn gwybod yw bod y Llywodraeth wedi agor y drws i gynnyrch o safon is.
“Mae’r Unol Daleithiau yn wlad gorfforaethol sydd â llawer o arian, nid ffermydd teuluol ydy y rhain ond ffermydd diwydiannol a bydd hi’n anodd iawn cystadlu â nhw.
“Mae rhaid cofio bydd hyn yn effeithio ar amaethyddiaeth cig a llysiau, felly ar ddeiet pawb.
“Mae’n ddiwrnod trist, mae hyn yn mynd i fod yn drawsnewidiol i Brydain.”
‘Bygwth y genhedlaeth nesaf’
Eglurodd y ffermwr mynydd o Lanfairfechan mai ei nod ef fel sawl ffermwr arall yw pasio’i fferm deuluol ymlaen i’r genhedlaeth nesaf.
“Y gwir ydi mi ydw i a chenedlaethau o ffermwyr eraill ar draws y wlad yn edrych ar ôl y tir yma er mwyn y genhedlaeth nesaf,” meddai.
“Os ydi pobol sydd yn llywio ein gwlad ni a’n diwydiant ni ddim yn cefnogi ni, mae’n fygythiad i’r cenedlaethau sydd i ddod.
“Mae ein llywodraeth ein hunan wedi chwerthin ni allan, dwi ddim yn hoff o ddeud hyn, ond mae ‘na lot o bobol yng nghefn gwlad wedi pleidleisio dros y Ceidwadwyr, a dwi ddim yn meddwl ei bod nhw wedi gwneud unrhyw ffafrau a’i hunain drwy wneud hynny.
“Ond dw i’n gobeithio bydd pobol y wlad yma yn gefnogol o’r diwydiant amaethyddol, ac yn awyddus i barhau i gefnogi cig a llysiau sydd yn cael eu cynhyrchu yma yng Nghymru ac ym Mhrydain.”
“Rhaid i’r codi ofn yma stopio”
Mae Victoria Prentis, Gweinidog yr Amgylchedd, wedi dweud na fyddai’r Llywodraeth yn newid y gyfraith yn ymwneud â safonau mewnforio “o dan unrhyw amgylchiadau”.
“Rhaid i’r codi ofn yma stopio heno.
“Nid ydym yn mynd i fod yn mewnforio cyw iâr wedi’i olchi â chlorin neu gig eidion wedi’i drin â hormonau. Dyna gyfraith y wlad hon.
“Ym mhob trafodaeth masnach, rydym wedi dweud yn glir iawn na fyddwn yn peryglu ein safonau a hynny er mwyn amddiffyn yr amgylchedd, lles anifeiliaid a bwyd.”