Mae adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol wedi datgelu £8m o dwyll a gordaliadau yn y sector cyhoeddus yng Nghymru – i fyny o £5.4m yn ei adroddiad blaenorol.

Mae’r adroddiad yn dweud bod mwy na £42.9m o dwyll a gordaliadau wedi cael eu darganfod yng Nghymru ers i’r Fenter Twyll Genedlaethol gael ei sefydlu yn 1996.

Caiff adroddiadau o’r fath eu llunio bob dwy flynedd, gan dynnu ar ddata nifer o sefydliadau a systemau trawsffiniol er mwyn helpu cyrff cyhoeddus i ddod o hyd i hawliadau a thrafodion twyllodrus.

Fe fu’n rhaid i nifer o awdurdodau lleol gymharu cofnodion ar gyfer disgownt pobol sengl ar drethi a’r gofrestr etholiadol er mwyn dod o hyd i swmp sylweddol o’r twyll a chanslo hawliadau anghyfreithlon.

Coronafeirws

Mae’r adroddiad yn nodi bod y coronafeirws wedi cynyddu’r perygl o dwyll wrth i gyrff cyhoeddus orfod prosesu ceisiadau brys am gymorth.

Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn cydweithio â’r Swyddfa Gabinet ar hyn o bryd i geisio lleihau’r perygl ac i annog mwy o gyrff i gymryd camau pellach i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

‘Heriau sylweddol’

Roedd 98% o’r twyll yn ymwneud â:

  • disgownt ar dreth y cyngor
  • bathodynnau glas ar gyfer parcio
  • budd-dal tai
  • pensiwn
  • rhestrau aros am gymorth
  • cartrefi gofal preswyl
  • cynllun gostyngiadau ar dreth y cyngor

“Mae pandemig COVID-19 wedi dwyn heriau sylweddol i sefydliadau’r sector cyhoeddus sy’n dal i ddarparu gwasanaethau ar gyfer unigolion, cymunedau a busnesau mewn cyfnod eithriadol o anodd,” meddai’r Archwilyd Cyffredinol Adrian Crompton.

“Felly mae nodi £8m yn yr ymarfer diweddaraf hwn o dan y Fenter Twyll Genedlaethol yn gyfraniad pwysig o ran cyllido gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru.

“Mae’n bwysicach nag erioed bod gan sefydliadau drefniadau llywodraethu a rheolaethau cadarn ar waith i helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol rhag y risg o dwyll ar yr adeg hon o argyfwng.”

‘Cyfraniad hanfodol’ y Fenter

Wrth ymateb i ganfyddiadau’r adroddiad, dywedodd Nick Ramsay AS, Cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd:

“Ar adeg o bwysau ariannol parhaus, mae’r Fenter Twyll Genedlaethol (MTG) yn gwneud cyfraniad hanfodol at ganfod twyll a gordaliadau yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru,” meddai Nick Ramsay, cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd.

“Mae’r ffaith bod yr ymarfer MTG diweddaraf wedi cael mwy o effaith yn dangos yn glir y buddion a geir o gyrff cyhoeddus yn gwneud gwaith dilynol trylwyr ar y broses paru data.

“Oherwydd hynny, mae’n siom nad yw rhai sefydliadau yn buddsoddi digon amser ac ymdrech yn hynny o beth.

“Mae pandemig COVID-19 yn golygu bod risgiau twyll newydd yn ymddangos, ac rwy’n croesawu’r camau y mae’r Archwilydd Cyffredinol wedi’u cymryd i weithio gyda Swyddfa’r Cabinet i nodi cyfleusterau paru data, eu datblygu a’u hyrwyddo.

“Rwyf hefyd yn falch o weld yn bydd paru data ar gyfer grantiau cymorth busnes COVID-19 a delir gan awdurdodau lleol yn rhan o’r Fenter Twyll Genedlaethol yn y dyfodol.

“Yn gynharach eleni, cyhoeddodd yr Archwilydd Cyffredinol adroddiad ar drefniadau gwrth-dwyll cyrff cyhoeddus. Bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn trafod canfyddiadau’r ddau adroddiad hyn yn ystod ei waith craffu arfaethedig ar gyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru 2019-20.”