Mae diffyg cyfathrebu ynghylch cyfyngiadau coronafeirws lleol yn achosi “diffyg dealltwriaeth” ymhlith trigolion Bangor, yn ôl Siân Gwenllian.

Daw sylwadau Aelod Plaid Cymru o’r Senedd yn Arfon dridiau ar ôl i gyfyngiadau ddod i rym mewn wyth o ardaloedd yn y ddinas – Garth, Hirael, Menai, Deiniol, Marchog, Glyder, Hendre a Dewi.

Daeth y cyfyngiadau i rym am 6 o’r gloch nos Sadwrn (Hydref 10), sy’n golygu na all pobol deithio i mewn nac allan oni bai bod ganddyn nhw reswm dilys, sy’n cynnwys teithio i’r gwaith neu i gael triniaeth feddygol.

Yn ôl Siân Gwenllian, mae eithrio rhai ardaloedd o’r cyfyngiadau “yn arwain at ddiffyg dealltwriaeth”.

“Rwy’n cytuno’n gryf â’r angen i gael cyfnodau clo lleol, ond rwyf wedi codi pryderon bod y diffyg cyfathrebu yn arwain at ddiffyg dealltwriaeth, yn enwedig pan fydd un rhan o’r ddinas wedi’i heithrio o’r cyfnod clo,” meddai wrth Radio Wales.

“Mae ar bobol leol angen eglurder a digon o rybudd.”

“Gwnaed y cyhoeddiad ar nos Wener, gyda llai na 24 awr o rybudd.

“Ni chefais innau fel yr Aelod o’r Senedd dros y ddinas, nac arweinwyr cymunedol lleol unrhyw friffio ynglŷn â’r mater.

“Nid dyma’r agwedd gywir i’w chael wrth geisio cyfleu negeseuon i’n poblogaeth leol.”

Ansicrwydd pellach

Ac mae hi’n dweud bod ansicrwydd pellach yn sgil pryderon am brofi, oedi cyn rhoi canlyniadau a diffyg canolfan galw heibio yn y ddinas.

Mae’n dweud hefyd ei bod yn “hollol hurt” fod pobol yn dal i gael teithio o ardaloedd lle mae cyfraddau uchel o heintiadau.

“Mae lefelau’r haint yn bryderus,” meddai.

“Mae angen cynllun clir, wedi’i gyfathrebu’n glir i bobl Cymru.

“Mae arweinwyr cymunedol lleol eisiau gweithio gyda’r Llywodraeth i gyfathrebu’r neges, i wella dealltwriaeth, ac i achub bywydau. Cofiwch ein cynnwys ni.”