Mae ymchwil newydd gan Achub y Plant wedi datgelu bod 52% o deuluoedd yng Nghymru sy’n derbyn Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Plant wedi gorfod torri yn ôl ar hanfodion.

Mae’r rhain yn cynnwys bwyd, gwres a thrydan ac eitemau megis dillad, teganau a llyfrau dros y ddeufis diwethaf.

Daw hyn yn ystod Wythnos Herio Tlodi, ac mae’r ymchwil yn dangos bod 44% o deuluoedd ar incwm isel yn dweud eu bod mewn sefyllfa waeth yn ariannol o ganlyniad i’r pandemig coronafeirws.

Dywedodd bron i ddwy ran o dair (63%) eu bod wedi mynd i ddyled yn ystod y ddeufis diwethaf, gyda chyfartaledd cyfanswm y ddyled oddeutu £750.

Mae 43% hefyd yn dweud eu bod nhw ar ei hôl hi gyda thaliadau rhent a biliau tŷ.

“Mae’r Canghellor wedi cyflwyno ei gynlluniau ar gyfer swyddi, sy’n hanfodol o ystyried y cynnydd mewn diweithdra sy’n ein hwynebu ni,” meddai Melanie Simmonds, Pennaeth Achub y Plant, Cymru.

“Ond mae’n rhaid iddo hefyd dderbyn y pwysau ychwanegol sydd ar deuluoedd ar hyn o bryd, a gwneud penderfyniadau polisi sy’n adlewyrchu realiti, a gwneud yn siŵr fod lles plant wrth wraidd ei benderfyniadau.

“Ar y gorau, rydym yn annog y canghellor i beidio â bwrw ymlaen gyda’i gynlluniau i dynnu gwerth £1000 mewn budd-daliadau oddi ar deuluoedd incwm isel fis Ebrill nesaf, a all adael teuluoedd gyda phlant mewn sefyllfa fregus iawn.”

Gaeaf anodd ar y ffordd

Mae Achub y Plant wedi rhybuddio y bydd y gaeaf hyd yn oed yn fwy anodd i fwy o deuluoedd, gyda chynnydd anochel mewn costau i wresogi’r tŷ.

Ar ben hynny, mae’n debygol y bydd rhagor o gyfnodau clo lleol a bydd y posibilrwydd o golli swyddi’n cynyddu.

“Gyda’r gaeaf ar ei ffordd a mwy o bobl yn debygol o golli swyddi, dydi pethau ddim am fod yn rhwydd ar deuluoedd sydd eisoes wedi ei chael hi’n anodd ers y cyfnod clo,” meddai Melanie Simmonds.

“Mae rhieni yn dweud wrthym eu bod yn barod yn gorfod mynd heb fwyd neu drydan pan nad oes mwy o arian, ac mae nifer yn poeni am y gost o wresogi eu haelwydydd dros y gaeaf ac y bydd hynny yn eu gwthio i fwy o ddyled.”

400,000 o geisiadau newydd am Gredyd Cynhwysol

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi derbyn mwy na 400,000 o geisiadau newydd am Gredyd Cynhwysol gan deuluoedd ers dechrau’r pandemig.

Cyn yr argyfwng, roedd 2.6m o deuluoedd yn y Deyrnas Unedig yn derbyn Credyd Cynhwysol, ac roedd 1.2m o’r rheiny yn deuluoedd gyda phlant.