Mae arweinydd gwrthblaid Malaysia yn honni bod ganddo fe ddigon o gefnogaeth i ddisodli’r prif weinidog a ffurfio llywodraeth newydd.
Mae Anwar Ibrahim wedi cyflwyno’i dystiolaeth i’r brenin, yn ôl adroddiadau, ond mae’r palas brenhinol yn wfftio’i ymgais i gipio grym.
Mae’n dweud bod ganddo fe gefnogaeth mwy na 120 o bobol er mwyn disodli Muhyiddin Yassin, ond mae’r brenin yn mynnu cadw at y Cyfansoddiad ac mae’r palas yn dweud nad ydyn nhw’n gwybod pwy yw’r 120.
Yn ôl Anwar Ibraham, dylai’r prif weinidog gamu o’r neilltu ar ôl colli ei fwyafrif.
Daeth Muhyiddin Yassin i rym fel rhan o glymblaid ym mis Mawrth ar ôl curo plaid Anwar Ibrahim, ac mae ganddyn nhw fwyafrif bach iawn o ddwy sedd yn unig mewn senedd o 222 o seddau, ond mae hynny mewn perygl erbyn hyn yn sgil cecru o fewn y glymblaid.
Mae Ibrahim Anwar yn dweud iddo geisio trafod y sefyllfa â Muhyiddin Yassin ond na chafodd e ateb.
Mae disgwyl i’w lywodraeth fod yn un fwyafrifol Fwslimaidd, ond mae’n addo bod yn deg â phobol o bob crefydd a hil wrth gyflwyno diwygiadau.