Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod y gyfradd ddiweithdra yng Nghymru wedi codi yn sylweddol rhwng Mehefin ac Awst eleni.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), mae’r gyfradd bellach yn 3.8% – 0.7% yn is na’r ffigwr drwy wledydd Prydain.

Mae 15,000 yn fwy o bobol yn ddi-waith nag yn y tri mis hyd at fis Mai eleni, pan oedd y gyfradd yn 3.1%.

Mae nifer y bobol sydd mewn cyflogaeth 37,000 yn llai yn y tri mis hyd at fis Awst na’r tri mis blaenorol.

Mae cyfradd y bobol oedran gweithio nad ydyn nhw’n ‘weithgar yn economaidd’ – gofalwyr, myfyrwyr, neu oherwydd salwch neu ymddeoliad cynnar – wedi codi i 24.4%.

Ffigyrau’r Deyrnas Unedig

Mae’r gyfradd ddiweithdra yn y Deyrnas Unedig wedi codi 4.5% yn ystod yr un cyfnod.

Golyga hyn fod 500,000 yn llai o bobol yn y Deyrnas Unedig mewn gwaith ym mis Awst o’i gymharu â mis Mawrth eleni.

Wrth i’r pandemig barhau i daro swyddi, dyma’r gyfradd ddiweithdra uchaf yn y Deyrnas Unedig ers dros dair blynedd.

Cyfradd y rhai nad ydyn nhw’n ‘weithgar yn economaidd’ yn y Deyrnas Unedig yw 20.8%.