Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi cadarnhau bod 14 o achosion o’r coronafeirws yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.

Er nad oes cleifion wedi’u symud i’r uned gofal dwys, mae tair ward oedolion wedi’u heffeithio yn yr ysbyty.

Eglurodd llefarydd nad oedd un aelod o staff wedi’u heffeithio eto a bod camau rheoli haint yn cael eu gweithredu i leihau ymlediad y feirws.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi atal ymweliadau â’r ysbyty, heblaw am ymweliadau â chleifion ar wardiau mamolaeth a phediatrig.

Daw hyn yn dilyn clwstwr o achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, lle mae llawdriniaethau a derbyniadau brys wedi’u hatal.

‘Dysgu gwersi’

Mae Andrew RT Davies, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio ysbytai maes.

“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o achosion o’r coronafeirws yn un o brif ysbytai Cymru,” meddai.

“Rhaid i Lywodraeth Lafur Cymru edrych ar bob llwybr ar unwaith i gynyddu capasiti profi, a rhoi ysbytai maes a chyfleusterau Covid-ysgafn ar waith i wneud yn iawn ac osgoi aflonyddwch anochel i wasanaethau.

“Bu sawl achos yn ysbytai Cymru a rhaid dysgu gwersi, mae angen i’r holl fesurau atal a rheoli heintiau gael eu hadolygu ar frys i sicrhau y gallwn amddiffyn cleifion a staff yn ystod misoedd y gaeaf.

“Mae ein meddyliau gyda’r rhai dan sylw ac rwy’n siŵr y bydd camau cadarn a brys yn cael eu cymryd i amddiffyn cleifion a staff yn Ysbyty Brenhinol Gwent.”