Mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, yn galw am gyfraith sy’n atal pobol o ardaloedd yn Lloegr lle mae cyfraddau coronafeirws uchel rhag teithio – fel y mesurau sydd eisoes mewn grym yng Nghymru.

Daw’r alwad ar ôl i Boris Johnson, prif weinidog Prydain, gyflwyno system dair haen yn Lloegr er mwyn categoreiddio ardaloedd risg canolig, uchel ac uchel iawn.

Ond mae Plaid Cymru am weld y mesurau’n mynd i’r afael â theithio o ardaloedd lle mae’r gyfradd heintio’n uchel.

Yn ôl Boris Johnson, bydd y mesurau’n cynghori pobol i beidio â theithio, ac mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn dweud ei fod e am roi un cyfle olaf iddo newid y drefn cyn cymryd camau yng Nghymru.

‘Sut mae hyn yn deg?’

“Does gan bobol o Gonwy – sydd â 122 o achosion ym mhob 100,000 – mo’r hawl yn ôl y gyfraith yng Nghymru i deithio’n ddiangen i mewn i Feirionnydd drws nesaf, lle mae 18 o achosion ym mhob 100,000,” meddai.

“Ond eto, gall pobol yn Lerpwl – sydd â bron i 600 o achosion ym mhob 100,000 – fynd ar wyliau o hyd yng Ngwynedd ac Ynys Môn.

“Mae pobol yng Nghymru’n gofyn i’r prif weinidog: sut mae hyn yn deg?”

‘Canllawiau clir’

Wrth ymateb, dywed Boris Johnson fod yna “ganllawiau clir” na ddylai pobol deithio o ardaloedd risg uchel.

“Mae hi bellach yn ymddangos y bydd y prif weinidog yn gofyn yn neis i bobol beidio â mynd ar wyliau o ardaloedd lle mae heintiadau’n uchel, ond dydy hyn ddim yn mynd yn ddigon pell ac mae’n amlwg yn annheg i bobol sy’n destun cyfyngiadau yng Nghymru.

“Mae pobol, wrth reswm, yn gofidio fod yna dystiolaeth gynyddol fod achosion yng Nghymru’n gysylltiedig â phobol yn teithio heb gyfyngiadau o ardaloedd trosglwyddo uchel yn Lloegr.

“Rhaid i’r prif weinidog Mark Drakeford roi’r gorau i betruso ar y mater hwn a defnyddio’i bwerau ar unwaith i reoli ymlediad y feirws i mewn i Gymru.”