Mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi cyhoeddi diweddariad i’r cynllun gweithredu er mwyn nodi’r camau nesaf ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm newydd Cymru yn 2022.
Gelwir y cynllun gweithredu yn Cenhadaeth Ein Cenedl, ac mae’n cynnwys y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd wrth ymateb i bandemig y coronafeirws yn ogystal a’i hymateb i’r adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) yr wythnos diwethaf.
Mae’r ddogfen yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed ers 2016 pan gyhoeddwyd y cynllun gweithredu gyntaf.
Ymysg y prif lwyddiannau sy’n cael sylw mae:
- Cymru oedd yr unig wlad yn y Deyrnas Unedig i wella sgôr PISA ar draws y tri maes.
- Mae nifer y disgyblion o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig sy’n ennill o leiaf un radd C mewn TGAU Gwyddoniaeth wedi cynyddu 30%.
- Mae addysg gychwynnol athrawon wedi’i diwygio’n llwyddiannus, gyda chynnydd o 50% mewn ceisiadau.
- Mae buddsoddiad uwch nag erioed mewn dysgu proffesiynol athrawon, a’r cyflog cychwynnol yn uwch.
- 100% o ysgolion bellach yn defnyddio band eang cyflym iawn, o’i gymharu â 37% yn 2016.
“Mae’r diweddariad i Cenhadaeth Ein Cenedl yr ydym yn ei gyhoeddi heddiw yn cydnabod yr ymdrechion a’r llwyddiannau a wnaed gyda’n gilydd hyd yma, yn ystyried argymhellion yr OECD, ac yn mapio cam nesaf y daith,” meddai Kirsty Williams.
“Mae ein diwygiadau addysg, sy’n canolbwyntio ar y Cwricwlwm i Gymru, yn ymdrech genedlaethol ar y cyd.
“Mae sylfeini cadarn yn eu lle, ac wrth gydweithio byddwn yn parhau i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad, a darparu system addysg sy’n destun balchder cenedlaethol ac yn ennyn hyder y cyhoedd.”
“Amgylchiadau heriol”
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi dogfen sy’n nodi ei disgwyliadau o’r hyn y bydd gwireddu’r cwricwlwm yn ei olygu i ysgolion.
Bwriad ‘Cwricwlwm i Gymru: y daith hyd at 2022’ yw helpu ysgolion i baratoi ar gyfer cynllunio a gweithredu eu cwricwlwm.
“Rwy’n llwyr gydnabod yr amgylchiadau heriol y mae ysgolion yn eu hwynebu. Er nad oes angen gweithredu ar y ddogfen ddisgwyliadau ar hyn o bryd, mae’n rhoi cyfeiriad clir ar gyfer diwygio’r cwricwlwm,” meddai Kirsty Williams.
“Mae’r ddogfen hon yn nodi rolau a chyfrifoldebau gwahanol rannau’r system addysg wrth gefnogi ysgolion.
“Mae cyhoeddi’r disgwyliadau hyn yn garreg filltir bwysig ar y daith i newid y cwricwlwm, ond dim ond pan fydd eu staff a’u dysgwyr yn barod y dylai ysgolion eu defnyddio.”