Mae system tair haen o sy’n rhoi ardaloedd yn Lloegr mewn categorïau o risg cymedrol, uchel neu uchel iawn, yn darparu mwy o eglurder, yn ôl academydd.
Mae ardal dinas Lerpwl wedi cael ei osod yng nghategori risg uchel iawn, sy’n golygu y bydd tafarndai ar draws y ddinas yn cau.
Mae’r Athro Linda Bauld, sy’n athro iechyd cyhoeddus ym Mhrifysgol Caeredin, wedi dweud ei bod hi’n bwysig deall pam bod lleoliadau lletygarwch yn cau.
“Mae cyflwyno system tair haen yn darparu mwy o eglurder o ran beth fydd yn digwydd mewn gwahanol rannau o Loegr i geisio mynd i’r afael â’r cynnydd mewn achosion Covid-19,” meddai.
“Mae yno dipyn o ddadlau wedi bod ynghylch pam bod lleoliadau lletygarwch yn cau yn yr haenau uchaf ac mae’n bwysig deall pam bod hynny yn digwydd.
Lletygarwch yw’r ail gategori mwyaf lle mae’r feirws yn lledaenu
Dywedodd yr Athro Linda Bauld bod papur tystiolaeth diweddar gan y prif swyddog meddygol a chydweithwyr yn yr Alban wedi dweud mai, ar y cyfan, lletygarwch yw’r categori mwyaf ond un ar ôl aelwydydd/teuluoedd o ran ledaenu’r feirws.
“Mae pobol yn fwy tebygol o dreulio amser mewn tafarn neu fwyty nag mewn siop, er enghraifft, ac mae yno fwy o gyswllt wyneb yn wyneb heb fygydau pan mae pobol yn bwyta neu yfed.
“Mae lleoliadau lletygarwch dan do, lle gallai awyru fod yn fwy cyfyngedig a does dim modd cadw pellter cymdeithasol bob tro pan mae alcohol yn rhan o’r sefyllfa.”
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddant yn “ystyried” cynlluniau Lloegr.