Mae adroddiad annibynnol yn cydnabod fod gan Gymru bellach weledigaeth glir ar gyfer ei system addysg a’i dysgwyr.

Mae’r adroddiad gan Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (yr OECD) hefyd yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r heriau a gafodd eu gosod mewn adroddiadau blaenorol, yn canmol y cyfathrebu, ac yn nodi rôl Llywodraeth Cymru ar draws y system addysg.

Mae Kirsty Williams, yr Ysgrifennydd Addysg, wedi croesawu’r adroddiad.

“Mae gennym y sylfeini cryf ar waith, a byddwn yn symud ymlaen gyda’n cwricwlwm newydd,” meddai.

“Cwricwlwm i Gymru, o Gymru, a chan Gymru.”

Er hyn, mae gwrthwynebiad wedi bod i’r cwricwlwm newydd gan nad yw’n dweud yn bendant fod angen dysgu Hanes Cymru, ac mai “mater o ddehongliad” fydd y cynnwys.

Dysgu o gysylltiadau rhyngwladol

Mae Kirsty Williams wedi ymrwymo i barhau i ddysgu o gysylltiadau rhyngwladol.

“Yn ystod fy amser fel Gweinidog, rydyn ni wedi gwneud llawer o ymdrech i gael mwy o gysylltiad rhyngwladol,” meddai wedyn.

“Rydyn ni am ddysgu gan y goreuon, fel y gallwn ni fod y gorau hefyd, ac mae gweithio gyda’r OECD wedi bod yn hanfodol i’r dull newydd hwn i Gymru.

“Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn gwybod ac yn deall ein system, a gallan nhw ddal drych i fyny er mwyn i ni fel Llywodraeth wella ein hunain. Mae’r adroddiad yn darparu her ddefnyddiol ac yn dilysu’r cynnydd yr ydyn ni’n ei wneud. Hoffwn i ddiolch i bawb sy’n ymwneud â darparu’r adroddiad hwn i ni heddiw.”

Camau nesaf

Eglurodd y byddai argymhellion yr adroddiad yn cael eu defnyddio i lywio dyfodol addysg yng Nghymru.

“Y wythnos nesaf, byddaf yn cyhoeddi diweddariad ar Genhadaeth ein Cenedl,” meddai.

“Bydd hyn yn ystyried argymhellion yr adroddiad, yn adolygu ein hymdrechion a’n cyflawniadau ar y cyd, ac yn mapio cam nesaf y daith.

“Mae ein diwygiadau addysg barhaus, sydd â Chwricwlwm Cymru wrth wraidd iddynt, yn ymdrech genedlaethol a rennir.

“Rwy’n hynod falch o fod yn gweithio gydag athrawon, academyddion, ymarferwyr, busnesau, undebau, yr OECD a nifer o rai eraill sy’n adeiladu’r dyfodol hwn i’n dysgwyr, ein hysgolion a’n cenedl.”