Mae Plaid Cymru yn dweud y dylid gohirio cyfarfodydd rhithwir rhwng ysgolion ac arolygwyr Estyn am y tro, er mwyn osgoi rhoi rhagor o bwysau ar athrawon.
Mae disgwyl i gyfarfodydd gael eu cynnal y mis yma ond yn ôl Siân Gwenllian, llefarydd addysg y blaid, byddai bwrw ymlaen gyda nhw ar hyn o bryd yn wrthgynhyrchiol.
Mae Estyn yn gobeithio ailddechrau ymweliadau wyneb yn wyneb ag ysgolion yn ddiweddarach y tymor hwn.
“Mae gan athrawon ddigon ar eu plât ar hyn o bryd efo Covid,” meddai Siân Gwenllian.
“Maen nhw’n mynd y tu hwnt i’r disgwyl er mwyn sicrhau bod gan blant a phobol ifanc fynediad i addysg, ac maen nhw’n rhoi eu hunain mewn perygl ar yr un pryd.
“Dydi ychwanegu pwysau’n ddiangen ddim yn gynhyrchiol a fydd hi ddim o fudd i ddisgyblion nac athrawon.
“Mae ysgolion yn gweithredu gorau fedran nhw yn ystod yr adegau hyn sy’n llawn straen, gan gyflwyno addysg a chymorth i ddisgyblion er gwaethaf sawl anfantais, a helpu athrawon i barhau i hwyluso hyn ddylai fod yn brif ffocws.”
Prifathrawon dan y don
Yn ôl Siân Gwenllian, mae prifathrawon eisoes dan y don oherwydd yr “heriau ychwnegol a’r llwyth gwaith mae Covid wedi dod efo fo”.
“Maen nhw o hyd yn diweddaru asesiadau risg, yn sicrhau bod pellter cymdeithasol yn cael ei gadw, cadw i fyny hefo canllawiau sy’n newid o hyd a llawer mwy, ac maen nhw’n gwneud hynny o fewn cyd-destun pum mlynedd o doriadau i gyllidebau ysgolion.
“Oni bai bod cyfarfodydd ag Estyn yn cael eu hystyried yn angenrheidiol neu’n fuddiol gan ysgolion, dylid eu gohirio tan amser y gall y ddwy amser gytuno arno fo.”