Mae Boris Johnson, prif weinidog Prydain, yn addo y bydd holl gartrefi gwledydd Prydain yn cael eu pweru gan wynt o fewn degawd.

Fe fydd yn annerch cynhadledd y Blaid Geidwadol heddiw (dydd Mawrth, Hydref 6), gan addo chwyldro fydd yn creu cannoedd o filoedd o swyddi newydd.

Mae disgwyl iddo fe ddweud y gallai’r coronafeirws fod yn gyfle i sbarduno rhan Prydain yn y broses o roi Prydain ar flaen y gad o ran ynni glân.

Bydd £160m ar gael i ddiweddaru porthladdoedd ac isadeiledd yng ngogledd Lloegr, yr Alban a Chymru wrth i ragor o dyrbinau gael eu hadeiladu.

Dan y lach

Daw cynhadledd rithwir y Ceidwadwyr wrth i Boris Johnson wynebu cwestiynau am system brofi ac olrhain coronafeirws ei lywodraeth.

Mae’r llywodraeth hefyd dan y lach o du aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr ynghylch cyfyngiadau’r coronafeirws, megis cynnwys plant yn y “rheol chwech” a’r penderfyniad i gau tafarnau am 10 o’r gloch y nos.

Ac fe ddaw hefyd wrth i Lywodraeth Prydain wynebu camau cyfreithiol a ffrae â’r Undeb Ewropeaidd ynghylch Bil y Farchnad Fewnol sy’n mynd yn groes i gytundeb Brexit.

Yn ôl y Blaid Lafur, dylai Boris Johnson fanteisio ar ei araith i fynd i’r afael â’r system brofi ac olrhain ar gyfer y coronafeirws.

“Mae’r ffiasgo o ran profi dros y 24 awr diwethaf unwaith eto wedi amlygu anallu parhaus Boris Johnson a’i lywodraeth,” meddai Angela Rayner, dirprwy arweinydd y Blaid Lafur.

“Dylai’r prif weinidog ddefnyddio’i araith i amlinellu sut fydd e’n mynd i’r afael â’r argyfwng sydd ar y gweill.”

Ond mae Caroline Lucas, aelod seneddol y Blaid Werdd, wedi croesawu’r cyhoeddiad am ynni gwyrdd.

“Am yn rhy hir, mae cwmnïau’r Deyrnas Unedig wedi cael eu hatal gan ddiffyg cefnogaeth gan y Llywodraeth,” meddai.

“Ond mae cyhoeddiad y prif weinidog yn brin o dipyn o beth o fod yn gytundeb gwyrdd cynhwysfawr a fyddai’n adeiladu Prydain fwy gwyrdd mewn gwirionedd.”