Mae Donald Trump, Arlywydd yr Unol Daleithiau, dan y lach unwaith eto wrth ddychwelyd i’r Tŷ Gwyn ar ôl gadael yr ysbyty milwrol lle’r oedd wedi bod yn derbyn gofal am y coronafeirws.

Wrth ddychwelyd, cyhoeddodd na ddylai’r wlad ofni’r feirws sydd wedi lladd 210,000 o Americanwyr, er gwaethaf ei salwch, cyn mynd i mewn i’r Tŷ Gwyn heb fwgwd.

Mae’r sylwadau hyn wedi dychryn arbenigwyr sy’n credu nad yw cael ei heintio â’r feirws wedi newid ei agwedd tuag at yr afiechyd.

Wrth gyrraedd y Tŷ Gwyn, tynnodd Donald Trump ei fwgwd cyn cyhoeddi: “Dw i’n teimlo’n dda.”

Gadawodd yr Arlywydd y Walter Reed National Military Medical Centre, lle’r oedd wedi bod yn derbyn triniaeth, er bod ei feddyg Sean Conley wedi dweud ddoe (dydd Llun, Hydref 5) ei fod yn dal i fod yn heintus.

Aeth yn ei flaen i ddweud y byddai’n dioddef o’r haint am wythnos arall ond fod Donald Trump yn ddigon iach i gael gadael yr ysbyty.

Mae disgwyl iddo barhau â’i adferiad yn y Tŷ Gwyn, lle mae swyddogion yn ceisio darganfod i ba raddau mae’r haint wedi lledu ymysg lefelau uchaf Llywodraeth yr Unol Daleithiau.

Ond mae Donald Trump wedi datgan na fydd yn cael ei gadw rhag ymgyrchu am yn rhy hir, gan gymryd at Twitter i ddweud y “byddwn yn ôl ar y llwybr ymgyrchu yn fuan!!!”