Mae mwy na 300 o weithwyr mewn ffatri dillad isaf yn Sri Lanca wedi cael eu heintio â’r coronafeirws – ddyddiau’n unig ar ôl yr adroddiad cyntaf ers deufis fod achosion yn lledu yn y gymuned.

Mae pob un o’r 321 o weithwyr yn gydweithwyr i’r person cyntaf gafodd ei heintio ac fe ddaw’r adroddiadau ger y brifddinas Colombo er i’r llywodraeth fynnu ychydig ddiwrnodau’n ôl eu bod nhw wedi atal y feirws rhag lledu.

Cafodd cyrffiw ei gyflwyno mewn dwy ardal drefol lle mae mwyafrif y rhai sydd wedi’u heintio’n byw, ac roedd cyfyngiadau llym ar ysgolion, prifysgolion a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Mae 3,471 o achosion wedi’u hadrodd a’u cofnodi yn y wlad hyd yn hyn, a 13 o farwolaethau ond mae 3,259 o’r achosion ymhlith pobol sydd bellach wedi gwella.