Mae dogfen wedi dod i’r amlwg sy’n awgrymu bod Llywodraeth Prydain wedi anwybyddu cyngor pwyllgor gwyddonol Sage y dylid cyflwyno cyfnod clo dair wythnos yn ôl er mwyn rheoli ymlediad y coronafeirws.
Roedd y pwyllgor yn awyddus i gyflwyno cyfnod clo ledled gwledydd Prydain a fyddai’n para hyd at dair wythnos.
Mae’r Blaid Lafur yn dweud bod diffyg gweithgarwch Llywodraeth Geidwadol Prydain yn “destun pryder”.
Medi 21 yw’r dyddiad ar y ddogfen, ac fe ddaeth i’r fei oriau’n unig ar ôl i’r prif weinidog Boris Johnson gyflwyno’i system dair haen yn Lloegr, gan ddweud bod angen cymryd camau i atal y cynnydd sylweddol mewn achosion.
Roedd y ddogfen hefyd yn awgrymu y dylid dod â dysgu wyneb yn wyneb mewn prifysgolion i ben oni bai ei fod yn “gwbl hanfodol”, y dylid gweithio gartref pe bai modd, y dylid hefyd roi’r gorau i gyswllt â phobol o aelwydydd eraill oni bai eu bod yn yr un swigen ac y dylid cau bariau, bwytai, caffis, campfeydd dan do a gwasanaethau personol fel trin gwallt.
Ymhlith y rhai oedd yn y cyfarfod Zoom ar Fedi 21 roedd Syr Patrick Vallance, prif ymgynghorydd gwyddonol y Llywodraeth, a’r Athro Chris Whitty, prif swyddog meddygol Lloegr.
System dair haen
Yn ôl Boris Johnson, mae’r cynnydd mewn achosion a nifer y bobol sy’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty yn fflachio “fel rhybuddio dashfwrdd ar jet teithwyr”.
Bydd y drefn newydd yn gweld ardaloedd yn cael eu categoreiddio’n risg canolig, uchel neu uchel iawn.
Bydd bariau a thafarnau yng Nglannau Mersi yn cau oni bai eu bod nhw’n gallu gweini alcohol a bwyd wrth i bobol eistedd.
Bydd pleidlais yn San Steffan ar y mesurau heddiw (dydd Mawrth, Hydref 13) ac fe allai’r drefn newydd ddod i rym yfory (dydd Mercher, Hydref 14).
Mae achosion wedi codi bedair gwaith mewn pedair wythnos, ac mae mwy o gleifion covid-19 yn yr ysbyty nag ar ddechrau’r cyfnod clo cenedlaethol ar Fawrth 23, yn ôl Boris Johnson.
Mae Boris Johnson yn dweud nad yw e am weld cyfnod clo cenedlaethol arall, ac fe fydd cyfran o £1bn ar gael i helpu ardaloedd lle mae cloeon yn eu lle.