Cafodd staff ym Mhrifysgol Bangor wybod ddoe (dydd Mercher, Hydref 7) ym mha adrannau y bydd 200 o ddiswyddiadau yn digwydd.
Daeth cyhoeddiad mis diwethaf fod y Brifysgol wedi cychwyn cyfnod o ymgynghori er mwyn arbed £13m.
Yn ogystal ag 80 o staff academaidd, bydd 120 staff cymorth yn cael eu diswyddo, gan effeithio ar weithwyr yn yr adrannau technoleg gwybodaeth, arholiadau, y gofrestrfa academaidd, llyfrgelloedd, ystadau, llety, a chymorth i fyfyrwyr.
Dyma’r trydydd tro i’r brifysgol gyflwyno toriadau swyddi yn ystod y tair blynedd diwethaf.
Mae undebau llafur UNSAIN, UCU ac UNITE wedi rhybuddio y gallai graddfa’r toriadau niweidio enw da Prifysgol Bangor, cefnogaeth a lles myfyrwyr, a’r economi leol.
“Rhuthro i ddiswyddo”
Oherwydd bod y brifysgol wedi denu llai o fyfyrwyr o dramor, mae’n debyg y bydd yna lai o arian wedi dod mewn i’r coffrau eleni. Serch hynny, dywedodd UNSAIN y byddai’n well aros i weld yr effeithiau.
“Mae Prifysgol Bangor yn rhuthro i ddiswyddo pobol heb aros i weld faint o fyfyrwyr domestig a thramor fydd yma’r flwyddyn nesaf”, meddai Christine Lewis, ysgrifennydd cangen UNSAIN Bangor.
“Mae swyddogion gweithredol y brifysgol wedi bod yn cael gwared o staff am dair blynedd ac maen nhw eto i gyflawni sefydlogrwydd ariannol.”
Cafodd yr un neges ei hategu gan Daryl Williams, swyddog rhanbarthol UNITE.
“Bydd rownd arall o doriadau yn effeithio’n wael ar forâl staff ar adeg pan mae pobol yn ceisio ymdopi â Covid,” meddai.
Ychwanegodd Dyfrig Jones, llywydd UCU Prifysgol Bangor, fod “diswyddo staff yn ystod pandemig pan fydd angen i’r brifysgol fanteisio ar wybodaeth eu gweithlu i ddarparu dysgu cyfunol a chefnogi myfyrwyr yn ymddangos yn benderfyniad gwael iawn”.
Cyfarfod brys gyda’r Is-Ganghellor
Bydd Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS, sy’n cynrychioli Arfon, yn cyfarfod ag Is-Ganghellor y Brifysgol yr wythnos nesaf.
“Mae’n gyfnod anodd i bawb, ac mae prifysgolion wedi cael eu heffeithio gan Covid-19 mewn sawl ffordd”, meddai Hywel Williams.
“Rwy’n deall nad oes penderfyniad terfynol wedi ei wneud a’i gyfleu i’r staff.
“Mae’n rhaid i hawliau staff, ac enw da Bangor fod yn flaenoriaethau.”
Eglurodd Siân Gwenllian ei bod hi’n teimlo bod y penderfyniad wedi ei “ruthro”.
“Nododd y Brifysgol mai Covid-19 sydd ar fai am y toriadau hyn, felly oni fyddai’n fwy rhesymol gweinyddu toriadau dros dro, yn hytrach na thoriadau parhaol a fyddai’n cael effaith niweidiol ar yr economi leol?
“Rwy’n hynod bryderus bod y penderfyniad a gyhoeddwyd heddiw yn cael ei ruthro.
“Fel yr wyf wedi dadlau yn y gorffennol, mae 200 o swyddi mewn ardal fel Bangor yn cyfateb i filoedd o swyddi mewn ardaloedd mwy poblog o’r wlad.
“Rwy’n galw ar y Brifysgol i weithredu mewn ffordd mwy pwyllog, ac i drafod gyda’r gweithlu er mwyn osgoi creu drwgdeimlad diangen a allai gael effaith negyddol tymor hir.”