Mae Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi cyllideb ychwanegol o €18m (£16.4m) ar gyfer yr iaith Wyddeleg.
Ddoe (dydd Mawrth, Hydref 14), cyhoeddodd Paschal Donohoe, Gweinidog Cyllid Iwerddon, gyllideb gyntaf clymblaid Fianna Fáil, Fine Gael a’r Blaid Werdd.
Yn ystod y flwyddyn nesaf, bydd gan Údarás na Gaeltachta – asiantaeth sy’n gyfrifol am ddatblygiad economaidd, cymdeithasol a diwylliannol rhanbarthau Gwyddeleg eu hiaith – gyllideb gyfalaf o €14.5m i greu swyddi yn yr ardaloedd lle mae’r Wyddeleg yn cael ei siarad (y Gaeltacht).
Bydd hefyd €3.5m ychwanegol ar gael i wasanaeth teledu TG4 ddatblygu cynnwys yn yr iaith Wyddeleg.
‘Cydnabod y gymuned Wyddeleg’
Mae’r Conradh na Gaeilge, fforwm democrataidd ar gyfer y gymuned Wyddeleg, wedi croesawu’r cyllid ychwanegol.
“Ar ran Conradh na Gaeilge, hoffwn ganmol y Gweinidog Catherine Martin a’r Gweinidog Gwladol Jack Chambers am sicrhau cynnydd sylweddol i Údarás na Gaeltachta yn y gyllideb, cynnydd a fydd o fudd i gymuned y Gaeltacht,” meddai Dr Niall Comer, llywydd Conradh na Gaeilge.
“Mae’n rhaid cydnabod cymuned yr iaith Wyddeleg yn benodol am ei hymdrechion i sicrhau cydraddoldeb a chyllid priodol a digonol.
“Heb yr ymdrech barhaus hon a chefnogaeth yr holl bleidiau gwleidyddol, mae’n annhebygol y gellid bod wedi sicrhau cynnydd o’r fath.
“Rwy’n cydnabod fod y toriadau a wnaed i gyllid Foras na Gaeilge (y corff cyhoeddus sy’n gyfrifol am hyrwyddo’r Wyddeleg) ers 2008 bellach yn cael sylw, ond mae llawer o waith yn parhau fel y gall yr amryw brosiectau a sefydliadau sy’n gweithio gyda Foras na Gaeilge elwa o gynnydd mewn cyllid.”
Ychwanega Julian de Spáinn, Ysgrifennydd Cyffredinol Conradh na Gaeilge, fod y cyllid yn deillio o ymgyrch gymunedol ers etholiad cyffredinol 2016.
“Mae’n dda bod cyllid ychwanegol wedi’i sicrhau ar gyfer cynllunio iaith yn y Gaeltacht a’r tu allan i’r ardaloedd hynny,” meddai.
“Cafodd pwysau ei roi ar wleidyddion o bob plaid i atal y toriadau a barhaodd tan 2016 ac i ddarparu cyllid ychwanegol sylweddol i ariannu’r cynllun a gafodd ei gytuno gan 80 o grwpiau Gwyddeleg a Gaeltacht.
“Rydym nawr yn galw ar Foras na Gaeilge ac Údarás na Gaeltachta i ariannu’r prosiectau a’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn y cynllun, yn enwedig yn achos Cynllun Cymunedol yr Wyddeleg (A Scéim Phobal Gaeilge).”