Mae swyddogion papur bro CLONC yn ardal Llanbed wedi bod “ar flaen y gad” wrth fynd ati i gydweithio gyda chwmni lleol, Mwnci Ffwnci, i greu mygydau sy’n cynnwys logo CLONC.

“Diogelu’n gwirfoddolwyr rhag yr haint yw’r nod yn ystod y cyfnod hwn a rhoi plyg i’r papur bro, wrth gwrs.” medd Dylan Lewis, cadeirydd CLONC.

Er bod y papur wedi troi’n ddigidol yn ystod y cyfnod clo drwy gymorth cynllun Bro360. Bellach, maent wedi mynd yn ôl i brint ac felly daeth y galw am fygydau.

“Er nad ydym yn gymaint o griw yn dod at ein gilydd nawr, oherwydd y cyfyngiadau, mae rhaid i ni gyfri’r papurau a’u dosbarthu i’r siopau lleol, felly’r prif fwriad oedd darparu mygydau CLONC ar gyfer y gwirfoddolwyr.”

Denu gwirfoddolwyr newydd

Erbyn hyn, mae sawl un arall wedi dangos diddordeb yn y mygydau ac wedi bod mewn cysylltiad i osod eu harcheb.

Mae Dylan yn gobeithio y bydd hynny yn ffordd dda o “ddenu gwirfoddolwyr newydd i’w cynorthwyo” a hefyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i’r papur.

Dyma’r pwyllgor yn datgelu’r newyddion ar wefan Clonc360.