Mae’n bosib y bydd pobol ifanc yn ei chael hi’n anodd cael swyddi “am gyfnod hir” yn dilyn yr argyfwng coronafeirws.

Dyna ddywedodd yr Athro Ewart Keep, o Adran Addysg Prifysgol Rhydychen, wrth gyflyno tystiolaeth gerbron un o bwyllgorau’r Senedd fore heddiw.

Yn siarad ag AoSau, dywedodd ei fod yn rhagweld sefyllfa debyg i’r argyfwng diweithdra pobol ifanc ar ddechrau’r 1980au, a rhybuddiodd y gall cyfnod o galedi bara am hirach na’r disgwyl.

 

“Ar ddechrau’r 1980au mi gymerodd tipyn i effaith diweithdra pobol ifanc gronni,” meddai. “Felly mae gennych lond tymor o bobol sydd wedi gadael y sustem addysg a hyfforddi.

“Beth ddigwyddodd ar ddechrau’r 1980au oedd bod gwerth blynyddoedd o bobol wedi cronni, fel bath yn llenwi.

“Pob blwyddyn roedd rhagor o bobol ifanc yn ymuno â’r farchnad gwaith, ond dim ond canran bach oedd yn cael swydd. Ac felly wnaeth diweithdra pobol ifanc barhau i gynyddu.”

Sectorau dan fygythiad

Ategodd bod rhagolygon wedi bod yn rhy hael yn yr 1980au, a bod y sefyllfa wedi para’n hirach na’r disgwyl.

“Hyd yn oed â’r dirwasgiad wedi 2008 mi gymerodd saith i wyth blynedd i’r farchnad llafur ieuenctid adfer yn iawn,” meddai.

Dywedodd hefyd ei fod yn pryderu y bydd yr adferiad economaidd ar bendraw’r argyfwng yn “beryglus o araf” yn enwedig i rai sectorau a rhannau o Gymru sy’n ddibynnol ar y sectorau rheiny.

Y sector groeso, arlwyaeth, twristiaeth, hamdden, a manwerthu yw’r sectorau fydd yn cael eu taro waethaf, yn ôl yr academydd.

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wrthi’n ymchwilio i effaith coronafeirws ar yr economi yng Nghymru.