Mae Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno torrwr cylched (circuit breaker) yng Nghymru er mwyn caniatáu amser i “roi trefn” ar y system profi ac olrhain.

Byddai cyflwyno torrwr cylched yn golygu bod unigolion yn gorfod torri cyswllt gyda phobol y tu allan i’w cartref.

Os byddai’n cael ei gyflwyno, mae’n debyg y byddai’n para dwy neu dair wythnos.

Dywedodd Adam Price y dylai’r torrwr cylched ddod llaw yn llaw ag “ailgyflwyno’r system ffyrlo’n llawn,” pecyn achub ar gyfer busnesau, a chefnogaeth ymarferol ac ariannol i’r sawl fydd yn gorfod hunanynysu.

Rhybuddiodd y gallai’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol fod o dan bwysau aruthrol os nad yw Llywodraeth Cymru’n gweithredu ar frys.

“Mae’r darlun presennol yng Nghymru yn un llwm.”

Mae cyfradd-R Cymru ar oddeutu 1.37 ar hyn o bryd, ac fe wnaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru adrodd bod 764 yn fwy o achosion wedi bod yng Nghymru ddoe (dydd Mawrth, Hydref 13) tra bod pump yn rhagor wedi marw.

Mae cyfyngiadau lleol wedi bod mewn grym mewn dwy ar bymtheg o ardaloedd yng Nghymru, gan effeithio dros ddwy filiwn o bobol.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething bod Llywodraeth Cymru’n ystyried torrwr cylched a bydd penderfyniad yn cael ei wneud “dros y dyddiau nesaf.”

“Mae’r darlun presennol yng Nghymru yn un llwm. Mae niferoedd yr achosion yn cynyddu ar draws Cymru wrth i fwy a mwy o gleifion gael eu cludo i’r ysbyty gyda’r feirws,” meddai Adam Price.

“Gweithredu nawr”

“Oni bai ein bod ni’n gweithredu nawr mae perygl na fydd y Gwasanaeth Iechyd yn gallu ymdopi ag ail dôn, allai fod yn waeth na’r gyntaf,” pwysleisiodd.

“Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno torrwr cylched ar frys er mwyn caniatáu amser i “roi trefn” ar y system profi ac olrhain.

“Os nad yw Llywodraeth Cymru’n cymryd y cyfle hwn, pobol Cymru fydd yn gorfod talu’r pris.”

Gogledd Iwerddon

Bydd cyfyngiadau llym ‘circuit-breaker’ yn dod i rym yng Nghogledd Iwerddodd o ddydd Llun ymlaen.

Bydd ysgolion, tafarnau a bwytai yn cau yno am bythefnos.