Pe na fyddai camau priodol mewn grym, byddai Gwasanaeth Iechyd Cymru “dan bwysau” o fewn y mis nesa’.
Dyna ddywedodd Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru, yn ystod cynhadledd i’r wasg brynhawn heddiw.
Wrth annerch y wasg dywedodd ei fod yn disgwyl “y gaeaf mwyaf heriol yn fy ngyrfa broffesiynol” a bod y pwysau ar ysbytai Cymru, ar hyn o bryd, yn debyg i’r pwysau a oedd ym mis Mawrth.
“Dywedwch ein bod ni ar hanner y lefel yr oeddwn arni pan oedd achosion ar eu hanterth,” meddai, “A bod y feirws yma yn dyblu pob hyn a hyn o wythnosau – dyna mae’r profiad rhyngwladol yn dangos.
“Os ddywedwn hynny, mae’n ddigon posib – heb gamau lliniaru – y byddwn yn gweld y GIG yng Nghymru dan bwysau o fewn y mis nesa’.
“Wedi dweud hynny mae lefel y paratoi yn wahanol iawn i le’r oeddem ni yn ôl ym mis Mawrth a mis Ebrill.”
Pwysleisiodd bod 5,000 yn rhagor o welyau wedi’u comisiynu, a bod ymdrechion ar waith i alluogi ysbytai maes i gael eu hagor yn gynt na’r disgwyl.
Ffigurau’r Prif Swyddog
Mae yna 700 o gleifion yng Nghymru sydd yn yr ysbyty oherwydd Covid-19, ac mae hynny’n gynnydd o 49% o gymharu â’r wythnos ddiwetha’. Hefyd, dyma’r lefel uchaf ers mis Mehefin.
Mae yna 326 o achosion wedi’u cadarnhau mewn ysbytai yng Nghymru, sydd yn gynnydd o 70% o gymharu â phythefnos yn ôl.
Mae tua 15% o welyau aciwt a chymuned yng Nghymru yn wag, ond mae ambell ysbyty mewn rhai rhannau o’r wlad (sydd â lefelau uchel o Covid) eisoes yn cyrraedd diwedd capasiti.