Gyda chyfyngiadau wedi’u cyflwyno ym Mangor ers y penwythnos, aeth golwg360 i drafod gydag ambell berchennog busnes am eu gofidion ynglŷn â’u dyfodol.

Ers nos Sadwrn (Hydref 10fed) does dim hawl gan bobol i deithio i mewn ac allan i rannau o’r ddinas heblaw bod ganddyn nhw reswm dilys, gan gynnwys teithio i’r gwaith, i’r ysgol neu i dderbyn triniaeth feddygol.

Wrth drafod y sefyllfa, dywedodd Buddug Lewis-Jones, perchennog ‘Beau Beauty’, sydd wedi ei leoli ar y Stryd Fawr y ddinas: “Dydi’r Llywodraeth ddim wedi cau ni lawr, ma’ nhw jyst wedi restrictio ni gymaint fel does ’na ddim busnes i redeg.”

Beau Beauty, Bangor

Dywedodd bod hynny’n debygol o “chwalu” busnesau ym Mangor.

Mae Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, ac Aelod Seneddol Plaid Cymru Hywel Williams wedi galw ar y Llywodraeth am gefnogaeth.

“Dani’n dal ar for dear life ar y funud.”

“Ma’ hyn wedi cael effaith mawr ar bookings y salon. ‘Ma’r appointments ’di bod yn cael i ganslo ar hyd yr wythnos a dim jyst fi sy’n cael fy effeithio,” meddai Buddug Lewis-Jones.

“Dani’n dal ar for dear life ar y funud.”

Dywedodd Buddug fod y mwyafrif helaeth o’i chleientiaid yn byw mewn ardaloedd tu hwnt i’r cyfyngiadau, megis Pwllheli, Ynys Môn a Chaernarfon.

Mae hynny wedi golygu ei bod yn trin yr un nifer o gleientiaid mewn wythnos ac y byddai mewn diwrnod arferol.

“Mae’r ffaith bod ardal y lockdown mor fychan yn mynd i chwalu busnesau, os ti’n sbïo ar y map ma’r lein o gwmpas lle ’ma’r busnesau i gyd.”

“Mewn ffordd, mae’r lockdown yma’n waeth.”

Dywedodd Buddug Lewis-Jones bod y cyfyngiadau lleol iawn yn golygu hyd yn oed mwy o ofid iddi na chyfyngiadau ehangach ar draws y sir neu yn genedlaethol.

“Mewn ffordd, mae’r lockdown yma’n waeth. Pan odda ni gyd mewn lockdown, oedd pawb hefo’n gilydd ac roedd pawb yr un cwch. Rŵan, i fi’n bersonol ac i’m musnes i, dwi’n risgio colli clients i salons eraill, sydd tu allan i’r restricted area.

Dywedodd Buddug ei bod yn gofidio ynglŷn â denu cleientiaid yn ôl wedi’r cyfyngiadau gael eu codi gan ystyried beth fydd effaith hirdymor hynny ar ei busnes.

“Ma’ pobl yn desperate i gal dod mewn i’r gym”

Yn ôl Mark Humphreys, perchennog cwmni ‘Enzone Health & Fitness’, sydd hefyd wedi ei leoli yng nghanol yr ardal cyfyngiadau:

“Ma’ ran fwyaf o members fi’n dod o du allan i Fangor. Ma’ ’na lwyth ‘di bod yn ffonio i ofyn, ga’i ganslo’r membership? Sy’n amlwg yn creu problem i fi, wrth i fi drio cadw’r gym i redeg.”

Mae Mark yn egluro ei fod wedi mynd ati i addasu yn ystod y cyfnod clo ym mis Mawrth, drwy gynnal sesiynau ffitrwydd ar-lein.

Er hynny, mae’n dweud nad yw’n darparu’r un ymdeimlad o gymuned, mewn cyfnod ble mae ymarfer corff yn fwy pwysig nag erioed:

“Ma’ pobl yn desperate i gael dod i mewn i’r gym a ma rhaid i’r bobl sy’ in charge fod yn edrych ar hynny. I fi, mae hyn yn essential i iechyd pobl yn gorfforol ac yn feddyliol. Yn enwedig hefo bob dim sy’n mynd ymlaen.”

Yn sgil hynny, mae’n galw ar y Lywodraeth Cymru i ystyried cynnwys canolfannau ffitrwydd fel gwasanaeth sydd yn ‘hanfodol’.

“Mae o’n boen mawr arna i, dio’m jyst am os ydi’r busnas yn mynd i fod yn iawn ond hefyd be sy’n mynd i ddigwydd i members fi? Ydyn nhw yn mynd di fod yn iawn?”

Beth fydd dyfodol stryd fawr Bangor?

“Dani ‘di gweld gymaint o fusnesau yn cau ym Mangor yn barod, mater o wythnosau yn unig tan fydd bob man yn cau,” meddai Buddug Lewis-Jones.

“Fydd ‘na ddim busnesi ar agor ar Stryd Fawr Bangor yn y diwedd”.