Mae Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, Jacob Rees-Mogg AS, wedi beirniadu Llywodraeth Cymru gan ddweud bod ei gwaharddiad teithio yn “anghyfansoddiadol”.

Daw hyn ar ôl i’r Prif Weinidog Mark Drakefrod gyhoeddi y bydd pobol o ardaloedd sydd â lefelau uchel o’r coronafeirws – ledled Deyrnas Unedig – yn cael eu gwahardd rhag teithio i Gymru o ddydd Gwener (Hydref 16).

Ond dywedodd Mark Drakeford heddiw (Hydref 15) “nad yw’n rhy hwyr i Boris Johnson newid ei feddwl” am gyflwyno cyfyngiadau teithio ledled y Deyrnas Unedig.

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, wedi gwrthod hynny; ac felly ar ddechrau’r wythnos hon mi anfonodd Prif Weinidog Cymru lythyr yn atseinio’r galw am gyfyngiadau yn Lloegr.

“Doeddwn i erioed eisiau i hyn fod yn fater yn ymwneud â’r ffin, a phobol yn teithio i mewn ac allan o Gymru,” meddai Mark Drakeford wrth BBC Breakfast.

“Mater yn ymwneud ag ardaloedd lefelau uchel, ac ardaloedd lefelau isel – lle bynnag y maen nhw. Dyna sut dw i wastad wedi ystyried hyn.

“Dyna rydych chi’n gael wrth bleidleisio am sosialwyr”

Yn ystod sesiwn cwestiynau busnes, gofynnodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Rutland and Melton, Alicia Kearns: “All fy ffrind anrhydeddus gadarnhau y byddai’n anghyfreithiol i Lywodraeth Lafur Cymru gyflwyno ffin o fewn y Deyrnas Unedig er mwyn cyfyngu ar deithio rhwng Lloegr a Chymru?”

Atebodd Jacob Rees-Mogg: “Mae gosod ffin rhwng Lloegr a Chymru’n anghyfansoddiadol.

“Rydym i gyd y un Deyrnas Unedig ac ni ddylem gael ffiniau rhwng gwahanol rannau o’r Deyrnas Unedig.

“Mae gennyf ofn mai dyna rydych chi’n gael wrth bleidleisio am sosialwyr.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb i sylwadau Jacob Rees-Mogg.