Mae Diwrnod Shwmae Su’mae, yn dathlu ei wythfed pen-blwydd heddiw (Hydref 15).
Mae’r diwrnod cenedlaethol yn cael ei gynnal pob blwyddyn, ac yn dathlu’r Gymraeg drwy annog pobol i ddechrau bob sgwrs yn Gymraeg.
Grŵp ymbarél ‘Dathlu’r Gymraeg’ sy’n cydlynu’r diwrnod, ond mae’r gweithgareddau a gynhelir yn cael eu trefnu gan unigolion, grwpiau, cymunedau, sefydliadau, mudiadau, a gwasanaethau cyhoeddus ar draws Cymru.
Thema’r diwrnod eleni yw ‘Ar draws y Tonnau’ er mwyn annog pobol i ganfod lleoliadau a ffyrdd newydd o ddefnyddio’r Gymraeg.
Bydd llysgenhadon yn rhannu eu profiadau am y Gymraeg a byw ochr yn ochr ag ieithoedd eraill.
Mae llysgenhadon eleni’n siarad Pwyleg, Shona o Zimbabwe, Llydaweg, Gwyddeleg, Hwngareg, Catalaneg yn ogystal â’r Gymraeg a Saesneg.
Cydweithio â Ambobdim
Mae Shwmae Su’mae yn cydweithio â llwyfan digidol Ambobdim eleni.
Maen nhw’n gobeithio annog artistiaid, mudiadau, gwyliau a lleoliadau newydd i rannu ac annog creu cynnwys digidol Cymraeg.
Bydd Ambobdim yn cynnal Sianel Shwmae Su’mae, http://www.amam.cymru/shwmae, fydd yn dangos digwyddiadau eu partneriaid dros y misoedd nesaf.