Mae gwaith ar gynllun gwerth £30m i ail-wneud rhan o’r A55 wedi dechrau.
Bydd y gwaith rhwng Abergwyngregyn a Thai’r Meibion yng Ngwynedd yn gwella diogelwch ar hyd y ffordd, ac yn atgyfnerthu gallu’r ffordd i wrthsefyll llifogydd.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys pedwar cilometr o lwybrau teithio i annog cerdded a beicio yn yr ardal.
Dechreuodd y gwaith ym mis Medi – gyda mesurau Covid-19 llym ar waith ar y safle.
‘Cynllun pwysig’
“Mae’n dda gen i fod y cynllun pwysig hwn i wella diogelwch ac i amddiffyn yr A55 yn well yn erbyn llifogydd bellach wedi dechrau”, meddai Ken Skates, Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru.
“Yn ystod y gwaith adeiladu bydd y cynllun hefyd o fudd i’r economi leol, ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer prentisiaid a hyfforddeion.
“Nawr yn fwy nag erioed mae angen i ni fuddsoddi yn ein seilwaith ac adeiladau ar gyfer y dyfodol.
“Bydd y cynllun £30 miliwn hwn yn ein helpu i wneud hynny.”
Bydd system rheoli traffig dros dro ar yr A55 o fis Chwefror 2021 a disgwylir i’r gwaith fod wedi’i gwblhau erbyn gwanwyn 2022.