Mae’n bosib bydd yn rhaid i brifysgolion yn Lloegr roi’r gorau i ddysgu wyneb yn wyneb er mwyn galluogi i fyfyrwyr ddychwelyd adref dros wyliau’r Nadolig.

Yn ôl adroddiadau bydd cyfno clo yn cael ei roi mewn lle mewn prifysgolion yn Lloegr rhwng Rhagfyr 8 a Rhagfyr 22.

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson eisoes wedi dweud bod cynlluniau yn cael eu rhoi mewn lle er mwyn galluogi i fyfyrwyr ddychwelyd adref yn saff dros wyliau’r Nadolig.

‘Anymarferol ac anhrefnus’

Mae ysgrifennydd cyffredinol Undeb yr UCU, Jo Grady, wedi dweud bod y cynlluniau yn “anymarferol ac anhrefnus”.

“Fe ddylen ni fod yn cael myfyrwyr adref nawr, nid ymhen deufis”, meddai.

“Mae adleoli dros filiwn o fyfyrwyr yn mynd i gymryd amser.

“Yn yr un modd a gofalu amdanyn nhw tra maen nhw’n cael eu gorfodi i mewn i gwarantîn neu gloi mae hefyd yn mynd i ddefnyddio llawer o adnoddau.

“Mae’r obsesiwn hwn gyda’r Nadolig yn beryglus.”

Ar ddechrau’r tymor bu rhaid i Brifysgol Aberystwyth atal dysgu wyneb yn wyneb dros dro yn dilyn ansicrwydd ynghylch graddfa lledaeniad y feirws.

Angen mwy na pythefnos o fewn neuaddau preswyl?

Mae Dr Ellen Brooks-Pollock, sy’n rhan o Grŵp Pandemig Gwyddonol y Llywodraeth, wedi awgrymu efallai na fydd pythefnos yn ddigon er mwyn atal lledaeniad y feirws o fewn neuaddau preswyl prifysgolion.

“Mae ein dadansoddiad yn awgrymu bod lleihau addysgu wyneb yn wyneb yn arafu cyfradd ymledu ac yn atal rhagor o achosion”, meddai wrth BBC Radio 4.

“Fodd bynnag, mae angen i hyn ddigwydd yn gynnar oherwydd os yw’r haint eisoes yn eang yna mae’n annhebygol y bydd yn atal achosion o fewn neuaddau preswyl.

“Efallai y bydd pythefnos yn ddigon i fyfyrwyr sy’n byw mewn cartrefi llai sy’n byw gyda dau neu dri o bobol eraill ond yn y neuaddau preswyl, lle mae llawer o bobol yn byw gyda’i gilydd, gallai hyn mewn gwirionedd arwain at ragor o achosion o fewn y neuaddau preswyl.”

Mae Gavin Williamson, Ysgrifennydd Addysg San Steffan, wedi dweud y bydd canllawiau ar y mater yn cael eu cyhoeddi “yn fuan”.

“Bydd pob myfyriwr yn gallu mynd adref adeg y Nadolig os ydyn nhw’n dewis”, meddai llefarydd ar ran yr Adran Addysg.

“Os yw myfyrwyr yn teithio adref, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n lleihau’r risg o ledaenu’r firws, a bydd y dyddiad pan fydd yn rhaid i brifysgolion roi’r gorau i ddysgu mewn person yn rhan bwysig o hyn.”