Mae Shelter Cymru wedi lansio ymgyrch ‘Cartref Da’ heddiw (Hydref 15), sy’n galw am godi 20,000 o gartrefi cymdeithasol fforddiadwy yn ystod y pum mlynedd nesaf.

Dywed yr elusen bod pobol wedi dioddef mewn cartrefi sydd ddim yn cwrdd â’u hanghenion yn ystod y cyfnod clo.

Mae data arolwg ar-lein yn dangos bod ansawdd tai gwael yn effeithio ar iechyd pobl ac yn ei gwneud hi’n anoddach osgoi’r feirws meddai.

Mae’r arolwg yn nodi bod un ym mhob cartref sydd â phlant, sy’n gyfystyr â 63,000 o blant ar draws Cymru, wedi bod heb fynediad i ofod tu allan rhwng mis Mawrth a Mehefin.

Roedd pobl a fynegodd bryder ynghylch peidio â chael digon o ofod yn eu cartrefi 32% yn fwy tebygol o ddweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y cyfnod clo o’i gymharu â’r rhai a ddywedodd bod ganddynt ddigon o le.

A dim ond 37% o denantiaid cymdeithasol a 42% o denantiaid preifat sy’n credu bod eu cartref yn eu galluogi i hunanynysu’n effeithiol.

Yn ystod y cyfnod clo, cafodd 30% o gartrefi â phlant broblemau yn eu cartref, megis lleithder, llwydni, a pheryglon trydanol.

A dim ond 31% o’r rheini lwyddodd i ddatrys yr holl broblemau, meddai Shelter Cymru.

Mae Shelter Cymru’n rhybuddio y gallai’r ffaith fod y cynllun ffyrlo’n dod i ben yn ogystal ag effaith y dirwasgiad olygu bod nifer o bobol yn mynd i’w chael hi’n anodd cynnal eu tai

 “Amlygu anghyfartaledd enfawr”

“Mae Covid-19 wedi amlygu anghyfartaledd enfawr mewn cymunedau yng Nghymru,” meddai Jennie Bibbings, pennaeth ymgyrchoedd Shelter Cymru.

“Mae bywyd yn y cyfnod clo wedi bod yn anodd, ond mae wedi bod yn anoddach i rai pobl na’i gilydd.

“Mae’n warthus bod gymaint o bobl yn byw mewn tai o ansawdd gwael sy’n effeithio ar eu hiechyd meddwl ac sy’n ei gwneud yn fwy anodd i osgoi’r feirws.”