Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi dileu neges yn galw am ddiddymu’r Senedd – a hynny yn sgil adroddiadau ei fod wedi digio’i blaid ei hun.

Brynhawn ddoe mi gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd pobol o ardaloedd sydd â lefelau uchel o covid – ledled y Deyrnas Unedig – yn cael eu gwahardd rhag teithio i Gymru.

Mi ymatebodd Daniel Kawczynski, cynrychiolydd Amwythig ac Atcham, ar Twitter gan alw’r gwaharddiad yn ymgais i “rannu’n cenedl yn ddwy”.

“Mae ymddygiad Prif Weinidog Cymru yn ystod yr argyfwng cenedlaethol yma wedi argyhoeddi miliynau yng Nghymru a Lloegr, yn enwedig y rheiny sydd yn byw ar hyd y ffin, bod hi’n bryd i ni ddiddymu Cynulliad [sic] Cymru er mwyn ein callineb a diogelwch cenedlaethol,” meddai.

Cafodd y trydariad ei ddileu o fewn awr o gael ei bostio, ac roedd yna adroddiadau bod Aelodau Ceidwadol o’r Senedd yn anhapus â’r neges – mae’r blaid yn cefnogi datganoli yn swyddogol.

Deisyfu diddymu

Nid dyma’r tro cyntaf i’r Aelod Seneddol – sy’n cynrychioli etholaeth ar y ffin â Chymru – rannu ei awydd i ddiddymu’r Senedd.

Ym mis Mai dywedodd ei fod wedi cael llond bol o bobol yng Nghymru yn dilyn rheolau gwahanol i bobol o Loegr, a bod angen dod â datganoli i ben.

“Mae’n ddrwg gennyf ond mae’r amser wedi dod i estyn allan fel Ceidwadwyr i’r niferoedd mawr o bobl yng Nghymru sy’n coelio mewn un system i’r ddwy wlad,” meddai.

“Mae’n rhaid i ni weithio tuag at refferendwm i ddiddymu Senedd Cymru a dychwelyd i un system wleidyddol i’r ddwy wlad – undeb wleidyddol rhwng Lloegr a Chymru.”