Nid yw’n rhy hwyr i Boris Johnson “newid ei feddwl” a gosod cyfyngiadau teithio ar ardaloedd yn Lloegr â chyfraddau uchel o’r coronafeirws.
Dyna mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi ei ddweud yn sgil ei benderfyniad i gyflwyno cyfyngiad teithio yng Nghymru.
O 6yh ddydd Gwener (Hydref 16), bydd pobol o ardaloedd sydd â lefelau uchel o Covid – ledled y Deyrnas Unedig – yn cael eu gwahardd rhag teithio i Gymru.
Daw’r cam wedi i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig wfftio cyfres o geisiadau gan Lywodraeth Cymru am gamau yn Lloegr yn unig.
“Doeddwn i erioed eisiau i hyn fod yn fater yn ymwneud â’r ffin, a phobol yn teithio i mewn ac allan o Gymru,” meddai Mark Drakeford wrth BBC Breakfast.
“Mater yn ymwneud ag ardaloedd lefelau uchel, ac ardaloedd lefelau isel – lle bynnag y maen nhw. Dyna sut dw i wastad wedi ystyried hyn.
Ategodd ei fod yn “methu a deall” pam fod Boris Johnson yn “gyndyn” i gyflwyno cyfyngiadau o’r fath, ond bod dal modd iddo “newid ei feddwl” a chyflwyno cyfyngiadau teithio yn Lloegr.
Pe bai hynny’n digwydd, yn ôl Mark Drakeford, byddai Llywodraeth Cymru yn medru cefnu ar eu gwaharddiad hwythau.
Ond mae arweinydd Ty’r Cyffredin Jacob Rees-Mogg wedi beirniadu Llywodraeth Cymru gan ddweud bod y gwaharddiad yn “anghyfansoddiadol”.
Plismona’r gwaharddiad
Mae yna gryn gwestiynau ynghylch sut y byddai gwaharddiad teithio Llywodraeth Cymru yn gweithio, ac mae Mark Drakeford wedi rhoi cynnig ar ateb ambell un o’r rheiny fore heddiw.
Bydd lluoedd heddlu yn cynnal patrolau ychwanegol ar brif ffyrdd Cymru er mwyn sicrhau nad oes pobol yn teithio yma o ardaloedd â lefelau uchel o covid.
Mi all y rheiny sydd yn torri’r rheolau yn “fwriadol” dderbyn hysbysiad o gosb, meddai.
Dywedodd hefyd bod gan blismyn Cymru “ystod o dechnegau y gallan nhw eu defnyddio” gan gynnwys technoleg sganio rhifau cerbydau yn awtomatig.
Mae Ffederasiwn yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr eisoes wedi dweud y bydd y gwaharddiad yn “anodd ei blismona”.
Effaith ar wyliau
Mae yna gwestiynau hefyd ynghylch effaith y cam ar y sector dwristiaeth yng Nghymru.
Dywedodd y Prif Weinidog y bore ‘ma, na ddylai’r sector dderbyn archebion am wyliau oddi wrth bobol o ardaloedd o’r Deyrnas Unedig â chyfraddau uchel o’r coronafeirws.
“Fydd dim modd derbyn yr archebion yma, mae arna’ i ofn,” meddai. “Os wnaethoch chi fwcio gwyliau yn y rhannau yna o Gymru, dw i’n ofni na fydd modd ei gynnal.”
Wythnosau o densiwn
Daw’r gwaharddiad yn sgil cyfnod o densiwn rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan, ac mae’r cam yn siŵr o ddyfnhau’r anghydfod.
Mae pobol sydd mewn ardaloedd clo yng Nghymru eisoes yn wynebu rheolau sy’n eu rhwystro rhag gadael eu siroedd – neu mewn rhai ardaloedd, eu tref neu ddinas.
Ond dyw hynny ddim yn wir am lefydd dan glo yn Lloegr, ac mae yna bryder bod pobol yn heidio o’r ardaloedd yma i rannau o Gymru sydd heb fod dan glo.
Ar ddechrau’r mis mi alwodd Mark Drakeford ar i Lywodraeth y DU gyflwyno cyfyngiadau teithio mewn ardaloedd sydd dan glo yn Lloegr.
Ond mi wnaeth Boris Johnson, Prif Weinidog y DU, wrthod hynny; ac felly ar ddechrau’r wythnos hon mi anfonodd Prif Weinidog Cymru lythyr yn atseinio’r galw am gyfyngiadau yn Lloegr.