Fe fyddai gwahardd pobl o rannau o wledydd Prydain sydd â chyfraddau uchel o’r coronafeirws rhag teithio i Gymru yn “anodd ei blismona”, meddai swyddogion yr heddlu.
Mae Ffederasiwn yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi dweud y byddai anawsterau wrth geisio adnabod lle mae pobl yn teithio ac o le maen nhw wedi dod.
Maen nhw hefyd wedi dweud bod y mesurau yn ychwanegu “lefel arall o gymhlethdod” i blismona.
Daw eu sylwadau ar ôl i’r Prif Weinidog Mark Drakeford gyhoeddi mesurau i atal pobl o rannau o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon sydd â chyfraddau uchel o’r coronafeirws rhag dod i Gymru. Mae’r Llywodraeth yn gobeithio y bydd y cam yn rhwystro lledaeniad y feirws y Gymru.
Daeth cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn sgil ymdrech ofer i argyhoeddi Llywodraeth San Steffan i gyflwyno cyfyngiadau teithio yn Lloegr.
Dywedodd Mark Drakeford y bydd y rheol newydd yn dod i rym am 6 yr hwyr ddydd Gwener (Hydref 16) os nad yw Boris Johnson yn cyflwyno gwaharddiadau teithio ar draws y Deyrnas Unedig.
Ond mae Mark Bleasdale, arweinydd Ffederasiwn yr Heddlu yng Nghymru wedi dweud y byddai’r gwaharddiad yn “anymarferol” gan ychwanegu “fe fydd hefyd nifer o unigolion sy’n teithio’n gyfreithlon o ardaloedd sydd ddim yn risg uchel ac fe fydd hyn yn ychwanegu at anawsterau swyddogion wrth blismona’r rheoliadau cyfredol.”
“Mae rhai ardaloedd o Gymru eisoes yn wynebu cyfyngiadau teithio ac mae nifer o unigolion yn methu teithio i mewn ac allan o’r siroedd hynny oni bai bod rheswm da dros wneud hynny. Mewn lleoliadau eraill, nid yw’r cyfyngiadau mor llym, felly mae’r gwaharddiad teithio yma yn ychwanegu lefel arall o gymhlethdod i blismona.”
Ychwanegodd bod lluoedd heddlu yng Nghymru eisoes dan straeon oherwydd y pandemig a bod achosion o droseddu wedi dychwelyd i’w lefelau cyn Covid.
Fe apeliodd ar y cyhoedd i barhau i fod yn “gefnogol a sylweddoli bod hyn yn gyfnod heriol iawn ar gyfer swyddogion rheng flaen.”
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Prydain wedi dweud bod y penderfyniad i gyflwyno’r gwaharddiad teithio “yn siomedig” a bod angen i “pob lefel o lywodraeth weithio gyda’i gilydd.”