Mae cwmni tafarndai Marston’s wedi cyhoeddi eu bod yn cael gwared a 2,150 o swyddi yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws sydd wedi cael effaith sylweddol ar eu busnes.

Dywedodd y grŵp y bydd tua 2,150 o’u gweithwyr sydd ar y cynllun ffyrlo ar hyn o bryd yn cael eu heffeithio a’i fod hefyd yn bwriadu cyflwyno cynlluniau eraill i dorri costau erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae Marston’s wedi rhoi’r bai ar y mesurau ar draws y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael ag achosion o Covid sydd wedi gweld cyrffiw ar rai llefydd yn y diwydiant lletygarwch a chau safleoedd eraill sydd ddim yn gweini bwyd mewn llefydd sydd â chyfraddau uchel o’r firws, fel Lerpwl.

Dywedodd Marston’s bod ganddyn nhw 21 o safleoedd yn yr Alban gydag 8 o’r rheiny wedi cau ar hyn o bryd, ac 18 yn Haen 3 yn ardal Lerpwl, er bod y rhan fwyaf o’r safleoedd hynny yn gweini bwyd ac yn parhau ar agor.

Yn ôl Ralph Findlay, prif weithredwr Marston’s, mae’r cyfyngiadau ychwanegol wedi golygu “heriau sylweddol i ni ac yn gwneud ein busnes yn anoddach am gyfnod o amser.”