Mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn yn cwrdd ym Mrwsel ar gyfer trafodaethau masnach gyda’r Deyrnas Unedig yn sgil “rhwystredigaeth” yn Llundain am gynnydd araf y trafodaethau.
Cyn y gynhadledd ddiweddaraf ym Mrwsel heddiw (dydd Iau, Hydref 15), mae Boris Johnson wedi dweud ei fod yn “siomedig” nad yw’r cytundeb yn symud ymlaen yn gyflymach.
Mae’r Prif Weinidog eisoes wedi rhybuddio ei fod yn barod i gerdded i ffwrdd o’r trafodaethau oni bai bod cytundeb wedi cael ei chwblhau erbyn i arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd gyfarfod ym Mrwsel heddiw (Hydref 15).
Fodd bynnag, mewn sgwrs ffon gyda Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen a Llywydd y Cyngor Ewropeaidd Charles Michel nos Fercher (Hydref 14), dywedodd y byddai’n edrych ar ganlyniad y gynhadledd cyn gwneud penderfyniad.
Yn y cyfamser mae Ursula von der Leyen a Charles Michel wedi ailadrodd bod yr Undeb Ewropeaidd yn awyddus i gael cytundeb.
“Mae’r Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn edrych ymlaen at glywed penderfyniad y Cyngor Ewropeaidd a’i fod am fyfyrio cyn gosod camau nesaf y Deyrnas Unedig,” meddai llefarydd ar ran Rhif 10.
Dywedodd Ursula von der Leyen fod yr Undeb Ewropeaidd yn gweithio ar gytundeb, ond bod yn “rhaid i’r telerau fod yn gywir” os nad oes cytundeb i’w chael.
“Mae dal lot o waith o’n blaenau,” meddai.
Yr UE yn gwrthwynebu pennu dyddiad terfynol
Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi gwrthwynebu ymdrechion gan y Deyrnas Unedig i bennu dyddiad terfynol er mwyn gorfodi cytundeb.
Bydd prif negodwr y Deyrnas Unedig, Yr Arglwydd Frost, yn briffio Boris Johnson ar y trafodaethau gyda phrif negodwr yr Undeb Ewropeaidd Michel Barnier cyn dod i benderfyniad a yw’n werth parhau gyda’r trafodaethau.
“Mae ychydig o gynnydd wedi cael ei wneud yr wythnos hon, mewn meysydd technegol yn bennaf, ond mae yno dal wahaniaethau, yn enwedig ar bysgodfeydd,” meddai llefarydd ar ran Downing Street.