Fe fydd Maer Manceinion, Andy Burnham, yn cynnal trafodaethau gyda Rhif 10 heddiw (Hydref 15) gan fod disgwyl i’r rhanbarth wynebu cyfyngiadau coronafeirws llymach.
Mae Andy Burnham wedi bod dan bwysau i ddilyn rhanbarth Dinas Lerpwl i roi Manceinion yn yr haen uchaf o gyfyngiadau fyddai’n golygu bod bariau, campfeydd a siopau betio yn cael eu gorfodi i gau.
Ond yn dilyn trafodaethau gyda dirprwy prif swyddog meddygol Lloegr Dr Jenny Harries ddydd Mercher (Hydref 14) dywedodd ei fod yn disgwyl cael cyfarfod pellach gyda thîm Boris Johnson ddydd Iau (Hydref 15).
Daw hyn wedi adroddiadau gan ymgynghorwyr y Llywodraeth y dylai’r rhan fwyaf o’r Gogledd Orllewin a Gogledd Ddwyrain Lloegr, yn ogystal â rhannau o Swydd Efrog a’r canolbarth, gael eu rhoi yn yr haen uchaf o gyfyngiadau sef Haen 3.
Mae Andy Burnham wedi ymateb yn chwyrn i adroddiadau bod penderfyniad eisoes wedi cael ei wneud. Wrth drydar, dywedodd: “Y cyfryngau wedi cael gwybod yn gyntaf unwaith eto. Nid yw ein safiad ni wedi newid.”
Mae wedi rhybuddio y gallai gymryd camau cyfreithiol i sicrhau bod trigolion yn cael eu diogelu rhag effeithiau economaidd y cyfyngiadau llymach.
Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Iechyd Matt Hancock wneud datganiad am y mesurau diweddaraf yn Nhŷ’r Cyffredin yn ddiweddarach dydd Iau.
Yn y cyfamser fe gyhoeddwyd bore ma y bydd Llundain yn cael ei roi yn yr haen ganolig, sef Haen 2, o’r cyfyngiadau coronafeirws o hanner nos nos Wener.