Yn dilyn misoedd o gyfyngiadau covid, mae iechyd meddwl y genedl yn siŵr o “waethygu” – ond rhaid “rhoi gobaith i bobol”.

Dyna mae Dr Clementine Maddock, Is-Gadeirydd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, wedi galw amdano’r wythnos hon.

Mewn sesiwn dystiolaeth ddiweddar yn y Senedd, dywedodd y seiciatrydd bod Cymru’n wynebu “storm berffaith o salwch meddwl”, ac mae wedi bod ymhelaethu ar hynny gyda Golwg.