Beth yw poen? Dw i wedi bod mewn poen drwy’r wythnos. S’dim posib canfod modd o sefyll, eistedd neu orwedd yn gyffyrddus, ond ceisio ffindo’r siâp lleiaf anghyffyrddus.

Rwy’n sylweddoli mae ond wythnos mae fy mhoen i wedi para, hyd yn hyn, a bod llawer iawn o bobol yn dioddef poen tebyg, a llawer gwaeth, am flynyddoedd.

Mae’n rhaid bod yna bwrpas i bopeth yn y corff, neu beth fydde’r pwynt iddo fe fodoli?

Felly beth yw pwrpas poen?

Ydy e’ ond yn bodoli er mwyn creu diflastod?