Ew! Mae’r gair ‘hiraeth’ yn un pwysig i ni Gymry.

Yn ein tyb ni, nid oes gair tebyg yn unman arall. Nid yw ‘longing‘ yr un peth (wedi’r cyfan, gallwch ddweud ‘I’m longing for a holiday‘ – ond ni fyddai’n iawn datgan ‘O! mae gennyf hiraeth am becyn o Cheesy Wotsits’).

Ac mae gennym oll hiraeth am rywbeth.

Am yr hen ddyddiau. Am fy ngwallt – ac am ein gwlad (os ydym, er enghraifft, wedi symud i fyw i Lundain).