Roedd yna fwy nag un Kate yn gallu sgrifennu am ei bro enedigol ar droad yr ugeinfed ganrif…

‘Os oedd un Kate yn Frenhines ein Llên, Kate Ardwyn yw Brenhines ein Llên Gymdeithasol’.

Dyna eiriau o gyflwyniad cyfrol newydd o’r enw Haf Bach Mihangel, detholiad o atgofion a cherddi Kate Davies, a gafodd ei magu ym mhentre’ Pren-gwyn, ryw dair milltir i’r gogledd o Landysul yn ne Ceredigion, ar droad yr ugeinfed ganrif.