Bydd Llundain yn wynebu cyfyngiadau coronafeirws Haen 2 o ddydd Sadwrn (Hydref 17), gyda Maer y ddinas Sadiq Khan yn rhybuddio bod y feirws yn “lledaenu’n gyflym ym mhob cwr o’n dinas.”

Mae’n golygu y bydd miliynau o bobol yn cael eu gwahardd rhag cyfarfod pobol o aelwydydd eraill tu mewn, boed hynny yn eu cartrefi neu mewn tafarndai. Mae pryderon y gallai’r cyfyngiadau fod yn drychinebus i 3,640 tafarn a 7,556 bwyty’r brif ddinas.

Mae pobol y ddinas hefyd yn cael eu cynghori i osgoi trafnidiaeth gyhoeddus.

Dywedodd y Gweinidog Gofal yn yr Adran Iechyd, Helen Whatley, wrth Aelodau Seneddol Llundain am y penderfyniad mewn sgwrs ffôn bore ‘ma (Hydref 15).

“Does neb eisiau gweld mwy o gyfyngiadau, ond rydw i, arweinwyr cyngor Llundain a Gweinidogion yn teimlo ei fod yn angenrheidiol er mwyn gwarchod Llundeinwyr,” meddai Sadiq Khan.

Aeth ymlaen i ddweud bod angen “gweithredu ar raddfa genedlaethol,” o ystyried “pa mor bell mae’r feirws wedi lledaenu eisoes” a “methiant llwyr y Llywodraeth i sefydlu system profi ac olrhain.”

“Ni all y Llywodraeth fforddio gweithredu’n araf eto.”

Cefnogi Syr Keir Starmer

Mae Sadiq Khan wedi dweud ei fod yn gefnogol o alwadau Arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer, am gyflwyno mesurau fyddai’n golygu bod unigolion yn gorfod torri cyswllt (circuit breaker) gyda phobol y tu allan i’w cartref.

Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford hefyd wedi dweud ei fod yn “trafod ac yn paratoi” at gyflwyno mesur o’r fath.

Dywedodd Sadiq Khan wrth Sky News fod rhagor o gyfyngiadau yn “anochel” gan fod cyfraddau heintiau yn “mynd i’r cyfeiriad anghywir.”

Manceinion a Swydd Gaerhirfryn

Mae Aelodau Seneddol Swydd Gaerhirfryn wedi cael gwybod y bydd yr ardal yn aros o dan gyfyngiadau Haen 2, er gwaethaf awgrymiadau y byddai’r ardal yn symud i’r haen uchaf, sef Haen 3.

Does dim cytundeb ar gyfyngiadau newydd i Fanceinion ar ôl Faer y ddinas, Andy Burnham, a swyddogion Rhif 10 gynnal trafodaethau bore ‘ma (Hydref 15).

Mae Andy Burnham yn gwrthwynebu’r camau ar ôl i ardal Lerpwl gael ei rhoi yn Haen 3.

Mae’n debyg y bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal y prynhawn ‘ma.