Roedd cyflwyno Bil y Farchnad Fewnol yn gyfwerth â defnyddio “gordd i falu cneuen”, yn ôl academydd.

Mae’r mesur wedi ei gyflwyno gan Lywodraeth San Steffan, ac maen nhw’n haeru y bydd yn sicrhau masnach lyfn oddi fewn i’r Deyrnas Unedig wedi Brexit.

Ond mae’r Bil heb os yn effeithio ar faterion sydd dan reolaeth y llywodraethau datganoledig, ac mae’r llywodraethau rheiny yn ei ystyried yn ymgais i ddwyn pwerau yn ôl i Lundain.

Yn siarad gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig brynhawn heddiw, rhannodd yr Athro Nicola McEwen, Cyd-Garwyddwr y Ganolfan tros Newid Cyfansoddiadol, ei barn am y Bil.

Awgrymodd nad oedd rhaid i’r Llywodraeth gyflwyno’r mesur, a bod bwrw ati yn y fath modd – heb ymgynghori â’r llywodraethau datganoledig – braidd yn llawdrwm a thrwsgl.

“I fi, mae’n arwydd o’r diffyg ymddiriedaeth rhwng y llywodraethau,” meddai. “Rydym yn gwybod bod hynny’n isel iawn rhwng y llywodraethau. A bod diffyg ymddiriedaeth ar ran Llywodraeth y DU.

“Mi allan nhw ddod at drefniadau ar y cyd trwy weithio ar y cyd yn bedwair cenedl. Ac mae’r [Bil] yma ychydig fel defnyddio gordd i falu cneuen.”

‘Cadw Cymru yn ei lle’

Roedd hefyd rhywfaint o sôn am sut byddai Bil y Farchnad Fewnol yn arwain at sefyllfa lle fyddai’r llywodraethau datganoledig yn cael eu dylanwadu’n fawr gan Loegr.

“Mae hyn yn fater o raddfa,” meddai’r Athro Nicola McEwen. “Mae marchnad Lloegr gymaint yn fwy na’r marchnadoedd eraill.

“Ac mae’r cyfan yn awgrymu y bydd y safonau a fydd yn cael eu gosod yn Lloegr yn cael effaith anghymesur o gymharu â’r gweddill,” meddai wedyn.

Un arall a fu’n rhoi tystiolaeth gerbron y pwyllgor, oedd yr Athro Jo Hunt o Brifysgol Caerdydd, a wnaeth hi atseinio’r pryderon yma.

“Mae’r senedd San Steffan yn gweithredu tros Loegr ac yn meddu ar warantau sofraniaeth seneddol,” meddai.

“Felly dyw rhannau gwahanol y DU ddim yn cael eu trin mewn ffordd gydradd yn y ddeddfwriaeth. Dyfais yw [y Bil] er mwyn cadw pob un o’r deddfwriaethau datganoledig yn eu lle.”

Bydd y Bil yn mynd gerbron Tŷ’r Arglwyddi am ail ddarlleniad yr wythnos nesa’.