Yr Athro Emyr Lewis yw Pennaeth Adran Y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cyn hynny roedd yn gyfreithiwr am dros 35 mlynedd gan arbenigo mewn cyfraith fasnachol a chyhoeddus. Mae o hefyd yn brifardd ac yn byw yng Nghwm Tawe.

Mewn sgwrs gyda chylchgrawn Golwg, dyma’r Athro i’n harwain i mewn ac allan o’r Undeb Ewropeaidd…

“Rhaid cofio bod y Deyrnas Gyfunol yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd ar ryw lun neu’i gilydd ers 1972,” meddai Emyr Lewis gan esbonio mai pwrpas yr undeb oedd sicrhau masnach deg ac agored rhwng gwledydd Ewrop.

“Diben hyn yn y pen draw oedd sicrhau heddwch yn Ewrop, oherwydd mae yna duedd gan ryfeloedd masnach i droi i mewn i ryfeloedd go-iawn os nad ydych chi yn ofalus.”

Gyda Brexit yn ein tynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd, mae’n bwysig cofio “fod y math o ddeddfau a meysydd polisi mae’r Gymuned Ewropeaidd yn gyfrifol amdanyn nhw wedi ehangu yn sylweddol.”

Ac o ran ein dyfodol, mae yna feysydd polisi pwysig iawn fel yr amgylchedd ac amaeth a rhai sy’n bwysig i’n bywyd bob dydd fel cyflogaeth, eglura.

“Yn sgil Brexit mae gennych yr holl ddeddfwriaeth yma yn ei lle sy’n rhan o’n deddfwriaeth ni yn y Deyrnas Gyfunol… Felly beth wnaeth y Deyrnas Gyfunol oedd pasio deddf oedd yn dweud [ein bod] ni’n ymadael [ac er mwyn osgoi anhrefn] yn parhau efo’r ddeddfwriaeth honno, ond mi fydden ni’n rhydd o reolaeth sefydliadau Ewrop dros ein byd.”

Felly mi fydd bron pob deddf Ewropeaidd yn cael ei chadw, eglura Emyr Lewis, cyn troi at ddatganoli o fewn y Deyrnas Gyfunol.

“Beth mae Llywodraeth San Steffan yn drïo ei osgoi ydi bod y grym yma dros Gymru sydd wedi bod yn Ewrop, yn sydyn yn llithro drwy eu dwylo nhw ac yn gorffen yn gyfrifoldeb yng Nghaerdydd,” meddai, cyn ymhelaethu ar graidd yr anghydfod.

“Mae’r Bil sy’n mynd drwy San Steffan yn ymwneud â marchnad sengl y Deyrnas Unedig – maen nhw’n ceisio sicrhau trefn masnachu ar draws ffiniau’r Deyrnas Gyfunol. Ac oddi fewn i’r trefniadau hynny, mae lot o’r pwerau oedd ym Mrwsel yn mynd i ddod yn ôl i Gymru a’r Alban. Ond mae’r pwerau hanfodol yn mynd i aros yn Llundain,” eglura Emyr Lewis sydd wedi cynghori Llywodraeth Cymru ac adrannau Llywodraeth San Steffan yn y gorffennol.

“Brawychus”

Mae dwy agwedd ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) sy’n peri gofid i Emyr Lewis.

“Yr un gyntaf ydi’r perygl y bydd y ddeddf yma yn torri cyfraith ryngwladol ac y bydd yn rhoi grym i Weinidogion Senedd Llundain, sef Boris Johnson a’r Cabinet, i wneud deddfau neu is-ddeddfau eu hunain. Ond yr hyn sy’n fwy brawychus ydi bod y darpar ddeddf yma hefyd yn dweud: os ydi Gweinidogion Llundain yn gwneud deddfau yn y maes yma, neu is-ddeddfau, does dim hawl herio’r deddfau hynny mewn llys barn.”

Mae rhoi grym felly i lywodraeth, yn ôl Emyr Lewis, yn mynd a ni “un cam i ffwrdd o ddemocratiaeth”, ac fe fyddai yn gallu arwain at “ddarpar argyfwng cyfansoddiadol i’r Deyrnas Gyfunol.

“Ond mae ambell i Arglwydd y Gyfraith wedi dweud yn y gorffennol: tasa Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn herio mewn ffordd sydd yn herian hawl y llysoedd i wneud arolwg o’i gweithredoedd hi … y byddai’r llysoedd barn efallai yn dweud: wel, mi’r ydan ni yn mynd i ddweud bod hyn yn anghyfreithlon. Ond mi’r ydan ni mewn dyfroedd does neb wedi mynd iddyn nhw o’r blaen …”

Beth yw pen draw torri cyfraith ryngwladol, a beth fydd yr Undeb Ewropeaidd yn ei wneud os bydd Llywodraeth San Steffan yn gwneud hynny?

“Wel, maen nhw wedi bygwth cyfraith!” meddai Emyr Lewis dan chwerthin.

“Ond am y tro, Llys Cyfiawnder Ewrop, sef llys mewnol yr Undeb Ewropeaidd, sydd yn penderfynu ar anghydfodau rhwng y Deyrnas Gyfunol ac Ewrop. Ond os oes rhywun yn torri cyfraith ryngwladol, ac yn parhau i’w thorri hi, yn y pen draw does dim byd llawer gellwch chi ei wneud…”

Felly cosbi mewn ffyrdd eraill efallai? “Dyna lle’r ydan ni’n symud oddi wrth y cyfreithiol at y gwleidyddol, a grym ydi hi yn y diwedd. Ac fe fyddai’r Gymuned Ewropeaidd yn gallu cymryd camau – efallai gosod sancsiynau, neu wrthod masnachu, neu fynd ati i dorri cytundebau rhyngwladol eu hunain yn ôl, fatha rhyw  quid pro quo. Mae hyn yn mynd â ni reit yn ôl i’r dechrau pan o’n i’n sôn beth oedd bwriad yr Undeb Ewropeaidd.”

“A ddwg wy a ddwg fwy…”

Gyda diwedd y flwyddyn – a Brexit – yn prysur nesáu, beth yw’r senario waethaf o ran ein dyfodol tu fas i’r Undeb Ewropeaidd ym marn yr arbenigwr?

“Bod dim cytundeb gydag Ewrop a bod yr haint felltith yma ar yr un pryd yn rhwystro unrhyw dwf economaidd. A bod y blas mae Llywodraeth San Steffan wedi ei gael ar ddeddfu er mwyn gwneud eu hunain yn imiwn rhag y llysoedd yn cydio a’u bod nhw’n meddwl: ‘Mmm, mae hwn yn neis, gawn ni fwy o hwn’ a bod nhw yn ymestyn yr egwyddor yna i feysydd eraill.

“I mi mae’r ddihareb – a ddwg wy a ddwg fwy – [yn berthnasol]. Os ydyn nhw’n cael blas ar ddeddfwriaeth sydd yn eu gwneud nhw tu hwnt i afael y gyfraith, mae rhywun yn poeni lle mae hynny’n mynd nesaf.”