Mae myfyrwyr o Gymru sydd yn astudio yn Lerpwl wedi bod yn ymateb i gyfyngiadau llym y ddinas a’u profiadau eu hunain o brofi’n bositif i’r feirws.
Bydd hynny’n gwahardd myfyrwyr Cymraeg mewn colegau tu allan i’r wlad, rhag dychwelyd yn ôl adref.
O brofi’n bositif i’r feirws, i addasu i fywyd prifysgol ar ei newydd wedd, tra hefyd yn cael bai am y cynnydd diweddar mewn achosion, mae’r myfyrwyr yn dweud bod y cyfyngiadau newydd yn gwneud sefyllfa anodd, hyd yn oed anoddach…
“Oni jyst isio bod adra”
Mae Alaw Fôn o Bontnewydd yn astudio gradd Meistr ac wedi bod yn byw yn ninas Lerpwl ers rhai blynyddoedd bellach.
“Bora dydd Sadwrn neshi ddeffro ag oni’n meddwl, ‘ma hyn yn hell. Oni’n boeth, wedyn oni’n oer ac oedd gen i gur yn fy mhen – oedd o’n afiach.”
“Eshi am test, a ddoth o’n nol yn bositif.”
“Oni jyst isio bod adra.”
Mae Alaw Fôn yn ystyried ei hun yn lwcus gan fod ganddi rwydwaith cefnogaeth dda yn y ddinas ond dywed bod y sefyllfa’n sicr o fod yn anoddach i fyfyrwyr newydd.
“Gymaint gwaeth i ’freshers’”
“Dwi’n teimlo gymaint o bechod dros y freshers newydd, mae o gymaint gwaeth iddyn nhw – neshi siarad hefo rhei ohonyn nhw – dydyn nhw ddim yn cael cyfle i neud ffrindiau newydd na’m byd.”
Yn ôl Cerys Thomas o Fethesda, sydd wedi bod yn byw ac yn astudio yn Lerpwl ers llai na mis:
“Er bod fi’n teimlo fatha bod fi yn y Brifysgol, mae o yn anodd coelio hynny ar y funud gan bo’ ni ddim yn cael yr typical ‘uni life’.” Meddai, “dyda ni ddim yn cael mynd i’r adeilad i gael darlithoedd a wan ‘dani ddim yn cael yr ‘night life’ chwaith.”
Mae hithau hefyd wedi bod yn treulio’r deg diwrnod diwethaf yn hunanynysu, wedi iddi brofi yn bositif i’r feirws.
“Ar ôl amser hir o hunan ynysu mewn fflat bach, heb ddim awyr iach, oni wedi meddwl dod adra am ‘chydig o ddiwrnodau i gael break bach,” meddai. “Mae hyn yn amhosib i neud wan ac yn eithaf frustrating gan bo’ fi ddim yn gwybod pryd gai ddod adra cyn ‘dolig i weld teulu a ffrindiau.”
“Ma’ hynny reit anodd i gymryd.”
“’Da ni’n cal y bai am bob dim”
Noson cyn i gyfyngiadau llym y ddinas ddod i rym, roedd heidiau o bobl wedi eu ffilmio yng nghanol y ddinas. Wrth ymateb i’r golygfeydd, dywed Alaw Fôn:
“Oni mor shocked, mae o’n hollol stupid.”
“Oni’n gweld lot o bobl ar Twitter yn deud na stiwdants ’di nhw gyd, ond fedri ‘di ddim really deud hynny.”
“Yndi, mashwr bod ’na stiwdants yn eu canol nhw,” meddai, “ond dwi’n siŵr bod ’na bobl leol yna hefyd.”
“Y peth dw i fwyaf blin hefo ydi bod y Llywodraeth ’di deud, cerwch yn ôl, mae o’n rili saff i chi fynd yn ôl, peidiwch a hesitatio, dylia chi gyd fynd yn ôl i’r coleg.”
“Wan bod ni yma, dani’n cal y bai am bob dim!”