Mae angen i ysgolion a cholegau yng Nghymru adolygu eu cefnogaeth ar gyfer disgyblion LGBT.

Yn ôl adroddiad gan Estyn – arolygwyr addysg a hyfforddiant Cymru – mae disgyblion LGBT yn dioddef mwy o fwlio ac unigrwydd, sy’n cael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl.

Canfu’r adroddiad hefyd fod ysgolion a cholegau sy’n dysgu am faterion LGBT mewn gwersi, yn hyrwyddo diwylliant cynhwysol ac yn dathlu amrywiaeth yn y gymuned ehangach, yn cynnig mwy o gefnogaeth i ddisgyblion LGBT.

Mae’r dysgwyr hyn yn teimlo mor hyderus â’u cyfoedion i rannu eu teimladau a’u credoau, meddai’r adroddiad.

Mae Estyn yn cynnig sawl argymhelliad i helpu ysgolion a cholegau i greu diwylliant cynhwysol gan gynnwys adolygu eu cwricwlwm, delio’n briodol â bwlio, a sicrhau bod pob un aelod o staff wedi eu hyfforddi i fynd i’r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo amrywiaeth.

Mae’r adroddiad hefyd yn cyfeirio at ganfyddiadau ‘Adroddiad Ysgol Cymru’ Stonewall 2017:

  • 54% o ddisgyblion LGBT yn cael eu bwlio am fod yn LGBT
  • 73% o ddisgyblion traws yn cael eu bwlio am fod yn draws
  • 62% o ddisgyblion LGBT yng Nghymru yn dweud nad oes yna oedolyn yn yr ysgol y gallant siarad ag ef / hi ynglŷn â bod yn LGBT
  • 51% o ddisgyblion LGBT wedi aros draw o’r ysgol o ganlyniad i fwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig
  • 77% o ddisgyblion LGBT wedi niweidio eu hunain yn fwriadol
  • 41% o ddisgyblion LGBT wedi ceisio lladd eu hunain

‘Mae gan ysgolion a cholegau ddyletswydd’

“Mae gan bob disgybl yr hawl i gael addysg yn rhydd o wahaniaethu”, meddai Meilyr Rowlands, Prif Arolygydd Estyn.

“Mae gan ysgolion a cholegau ddyletswydd i sicrhau nad yw disgyblion yn wynebu bwlio homoffobig, deuffobig neu drawsffobig, a mynd i’r afael ag unrhyw achosion o hyn.

“Dylem ni ddathlu’r arfer dda sy’n cael ei gweld yn yr ysgolion a’r colegau yn adroddiad heddiw, a rhannu hyn yn eang fel bod pob darparwr yn cyflawni diwylliant amrywiol a chynhwysol.”

Mewn ymgais i ysbrydoli gwell rhwydweithiau cymorth, mae’r adroddiad yn cynnwys enghreifftiau o gefnogaeth a darpariaethau yn arbennig o dda.

Cyfeirir at grŵp llais y disgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr yng Nghaerdydd, ac Ysgol Gynradd Eveswell yng Nghasnewydd sydd yn addysgu am wahanol gyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth yn yr un ffordd â hil, anabledd a chred grefyddol.

‘Creu system addysg wirioneddol gynhwysol’

Mae Stonewall Cymru, elusen sy’n ymgyrchu dros hawliau LGBT wedi croesawu adroddiad Estyn.

“Mae’r adroddiad yn gosod cyfres o safonau i ysgolion yng Nghymru weithio tuag ati i greu system addysg wirioneddol gynhwysol lle gall pob dysgwr ffynnu, bod yn nhw eu hunain a llwyddo”, meddai’r elusen mewn datganiad.

“Yr ydym yn falch o weld bod pwysigrwydd yn cael ei roi ar yr angen i sicrhau bod dysgu yn dathlu amrywiaeth ac yn mynd ati i hyrwyddo cynhwysiant.

“Dim ond drwy ddeall a darparu gwybodaeth y gallwn fynd i’r afael â cham-driniaeth a gwahaniaethu’r dyfodol.

“Mae gan bob person ifanc yng Nghymru yr hawl i gael addysg sy’n eu paratoi ar gyfer bywyd yn y Gymru fodern ac mae’n hanfodol bod eu haddysg a’u cwricwlwm yn adlewyrchu amrywiaeth llawn y byd y maent yn byw ynddo.”