Mae Boris Johnson wedi annog ASau i gefnogi ei ddeddfwriaeth Brexit ddadleuol er mwyn “gwarantu uniondeb economaidd a gwleidyddol y Deyrnas Unedig”.
Dywedodd y Prif Weinidog, yn ystod ail ddarlleniad Mesur Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, wrth Dŷ’r Cyffredin: “Dylai’r Tŷ hwn weithredu i gadw cyflawniadau hanfodol y tair canrif diwethaf, sef ein gallu Prydeinig i fasnachu’n rhydd ar draws yr ynysoedd hyn i gyd.”
Dywedodd Boris Johnson wrth ASau: “Nid dadl wleidyddol yn unig oedd creu ein Teyrnas Unedig gan Ddeddfau Uno 1707 a 1801… ond gweithred o integreiddio economaidd ymwybodol a osododd y sylfeini ar gyfer chwyldro diwydiannol cyntaf y byd a’r ffyniant a fwynhawn heddiw.
“Pan arhosodd gwledydd eraill yn Ewrop yn rhanedig, [fe roion ni] ein ffawd gyda’n gilydd – a chaniatawyd i law anweledig y farchnad symud pasteiod Cernyw i’r Alban, cig eidion o’r Alban i Gymru, cig eidion o Gymru i Loegr a Hufen Dyfnaint i Ogledd Iwerddon neu ble bynnag arall y gellid ei fwynhau.”
“Cydbwysedd gofalus”
Disgrifiodd Mr Johnson y Bil fel “rhwyd ddiogelwch” a “pholisi yswiriant”.
Dywedodd wrth Dŷ’r Cyffredin: “Mae’n amddiffyniad, mae’n rhwyd ddiogelwch, mae’n bolisi yswiriant, ac mae’n fesur synhwyrol iawn ac mewn ysbryd o resymoldeb.”
Dywedodd Boris Johnson fod “cydbwysedd gofalus” wedi’i daro wrth ailnegodi’r Cytundeb Gadael.
“Roedd hyn ym maniffesto (y Blaid Geidwadol) – ‘cynnal a chryfhau uniondeb a gweithrediad llyfn ein marchnad fewnol’. Mae’r Bil hwn wedi’i gynllunio i anrhydeddu’r addewid hwnnw a chynnal y rhyddid hwnnw.
“Pan ailnegodwyd ein Cytundeb Gadael, gwnaethom daro cydbwysedd gofalus i adlewyrchu lle annatod Gogledd Iwerddon yn ein Deyrnas Unedig, tra’n cadw ffin agored gydag Iwerddon, gyda’r nod datganedig a’r prif nod o ddiogelu Cytundeb Gwener y Groglith Belfast a’r broses heddwch.”
Cyhuddo’r Undeb Ewropeaidd
Aeth y Prif Weinidog Boris Johnson ymlaen i gyhuddo negodwyr yr UE o fod yn “eithafol ac afresymol” dros Brotocol Gogledd Iwerddon, a dywedodd y gallai hynny arwain at “rwystro cludwyr bwyd ac amaethyddiaeth yn ein gwlad ein hunain”.
Dywedodd wrth Dŷ’r Cyffredin: “Mae’n flin gennyf fod yn rhaid i mi ddweud wrth y Tŷ fod yr Undeb Ewropeaidd wedi awgrymu yn y misoedd diwethaf ei fod yn barod i fod yn eithafol ac afresymol gan ddefnyddio Protocol Gogledd Iwerddon mewn ffordd sy’n mynd ymhell y tu hwnt i synnwyr cyffredin… a hynny dim ond i ddylanwadu [ar] ein trafodaethau am gytundeb masnach rydd.
“Er mwyn cymryd yr enghraifft fwyaf amlwg, mae’r Undeb Ewropeaidd wedi dweud, os methwn â dod i gytundeb i’w boddhad, y gallent wrthod rhestru cynhyrchion bwyd a [chynhyrchion] amaethyddol y Deyrnas Unedig i’w gwerthu unrhyw le yn yr Undeb Ewropeaidd.
“Ac mae’n gwaethygu hyd yn oed: Oherwydd o dan y protocol hwn byddai’r penderfyniad hwnnw’n creu gwaharddiad ar unwaith ac awtomatig ar drosglwyddo ein cynnyrch anifeiliaid o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon.
“Mae [y negodwyr] ar yr ochr arall yn dal y posibilrwydd o rwystro cludwyr bwyd ac amaethyddiaeth yn ein gwlad ein hunain.”
“Dryll” ar y bwrdd
Dywedodd Boris Johnson nad yw’r UE wedi tynnu “y dryll hwnnw” oddi ar y bwrdd eto.
Ychwanegodd: “Hyd yn oed wrth i ni drafod y mater hwn, nid yw’r UE wedi tynnu’r dryll penodol hwnnw oddi ar y bwrdd… gobeithio y byddant yn gwneud hynny, ac y gallwn ddod i gytundeb masnach rydd ar ffurf [debyg i] Ganada…”
Dywedodd Boris Johnson na allai unrhyw brif weinidog dderbyn yr UE yn bygwth “ffiniau tariff” ledled y DU.
Dywedodd wrth ASau: “Maen nhw’n bygwth [gorfodi] ffiniau tariff… ffiniau tariff ar draws ein gwlad ein hunain a rhannu ein tir ein hunain a newid y ffeithiau sylfaenol am ddaearyddiaeth economaidd y Deyrnas Unedig […] gan sathru ar eu hymrwymiad eu hunain o dan Erthygl 4 o’r protocol lle mae, a dyfynnaf, ‘Gogledd Iwerddon yn rhan o diriogaeth tollau’r Deyrnas Unedig’.
“Ni allwn gael sefyllfa lle gallai union ffiniau ein gwlad gael eu pennu gan bŵer tramor neu sefydliad rhyngwladol.”