Mae Byron Hayward, hyfforddwr amddiffyn tîm rygbi Cymru, wedi gadael ei swydd ar unwaith cyn dechrau Cwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Mewn datganiad, dywed Undeb Rygbi Cymru y bydd y tîm hyfforddi presennol yn rhannu’r cyfrifoldeb am y gwaith amddiffynnol am y tro.

Ymunodd y cyn-faswr â thîm hyfforddi Wayne Pivac y llynedd.

Mae Cymru wedi cael eu canlyniadau gwaethaf ers pedair blynedd eleni, a’u hymgyrch waethaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ers 2007.

Enillon nhw un gêm yn unig yn y Chwe Gwlad a gafodd ei chwblhau ar ddechrau gemau’r hydref, ac maen nhw bellach wedi colli pum gêm o’r bron ers curo’r Eidal ym mis Chwefror cyn ymlediad y coronafeirws.

‘Anrhydedd’

“Dw i wedi mwynhau fy amser gyda Chymru ac roedd yn anrhydedd cael hyfforddi fy ngwlad,” meddai Byron Hayward.

“Fel y dywedais i o’r diwrnod cyntaf, y tîm sy’n dod gyntaf ac ar ôl meddwl am yr ymgyrch ddiwethaf gyda Wayne, roedden ni’n teimlo mai’r pethau gorau oedd i fi gamu o’r neilltu.

“Pan dderbyniais i’r rôl y llynedd, fyddwn i ddim wedi bwriadu gadael wrth i’r garfan baratoi i ddechrau’r tymor rhyngwladol newydd.

“Ond dw i’n credu mai dyma’r penderfyniad gorau i fi a’r garfan wrth iddyn nhw ddechrau ymgyrch newydd.

“Hoffwn ddymuno’n dda i Wayne a’r garfan wrth fynd yn eu blaenau, a byddaf yn eu cefnogi nhw’n llwyr.”

‘Diolch am ei onestrwydd’

Mae Wayne Pivac wedi diolch i Byron Hayward yn dilyn y cyhoeddiad.

“Hoffwn ddiolch i Byron am ei holl waith caled gyda Chymru, a diolch iddo am ei onestrwydd mewn cyfarfodydd yn ddiweddar.

“Dw i wedi gweithio ochr yn ochr â Byron ers chwe blynedd a hanner.

“Mae e’n hyfforddwr ymroddedig sydd wedi cael cryn lwyddiant yn ystod ei yrfa.

“Wrth feddwl am yr ymgyrch ddiwethaf, fe wnaethon ni benderfynu ar y cyd mai’r ffordd orau ymlaen i Gymru ac i Byron yw iddo gamu o’i rôl.

“Hoffwn i, ar ran y garfan a’r tîm rheoli, ddymuno’n dda i Byron ar gyfer y dyfodol.

“Yn y tymor byr, ar gyfer y pedair gêm i ddod, bydd y tîm hyfforddi presennol yn rheoli’r amddiffyn gan adeiladu ar y seiliau sydd eisoes yn eu lle.

“Byddwn ni wedyn yn ceisio disodli Byron yn llawn amser gyda chyhoeddiad i ddod maes o law.”